Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 28 Chwefror 2017.
Mae'n sicr yn wir fod yn rhaid iddynt gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth, ond gallant gydymffurfio’n llawn â’r gyfraith gan anwybyddu ei hysbryd yn gyfan gwbl, a dyna'n union beth sydd wedi digwydd yn yr achos hwn. Ni fu ymgynghoriad, bu ‘dimgynghoriad’, gan fod y penderfyniad wedi cael ei wneud cyn i’r ymarfer ymgynghori ddechrau hyd yn oed. Onid yw'n bryd nawr i Gyngor Sir Caerfyrddin gael ymarfer ymgynghori priodol, wedi’i gynnal yn annibynnol, gyda phawb yn nalgylch Llangennech yn unig, gan anwybyddu'r ymatebion sydd ddim i'w wneud â'r ardal sydd fwyaf dan sylw?