<p>Cymorth i Fusnesau sy’n Cychwyn</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 28 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 1:55, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Arweinydd y tŷ, mae data gan BankSearch ar ran Banc Lloyds yn dangos bod nifer y busnesau newydd sy'n cychwyn ledled Cymru wedi gostwng o swm syfrdanol o 26 y cant dros y pum mlynedd diwethaf. A gaf i ofyn beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wrthdroi'r duedd hon? Hefyd, a gaf i ofyn beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog pobl iau i ystyried dechrau eu busnesau eu hunain fel dewis bywyd cadarnhaol ar ôl gadael yr ysgol?