<p>Cartrefi mewn Parciau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 28 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:05, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod, bydd adolygiad o ddeddfwriaeth 2013 eleni. A fydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at hwnnw, ac a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud unrhyw beth am y comisiwn hwn o 10 y cant, sy'n cael ei ddidynnu’n orfodol gan y rhai sydd eisiau gwerthu eu cartrefi, y mae perchnogion parciau cartrefi symudol yn gwneud dim byd o gwbl yn gyfnewid amdano, oherwydd, ers Deddf 2013, nid oes ganddynt unrhyw swyddogaeth o gwbl yn y broses o werthu’r cartrefi symudol hyn? Mae'n ataliad sylweddol ar bobl rhag gwerthu eu cartrefi, yn enwedig os, fel sy'n digwydd fel arfer, eu bod yn tueddu i fod yn hŷn ac ar incwm isel; mae’n broblem sylweddol.