<p>Cartrefi mewn Parciau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 28 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:07, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Arweinydd y tŷ, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn bod gennym ni system sy'n dryloyw ac sy’n adlewyrchu'n deg y costau sydd gan berchnogion safle, a hefyd y gallu i’r rhai sy’n byw mewn cartrefi symudol feddu ar wybodaeth am y costau hynny a’u herio nhw os oes angen. Ar hyn o bryd, mae'n aneglur iawn ac mae'n ymddangos yn annheg iawn, ac, o ran ble mae’r grym, mae wedi ei lwytho yn erbyn y perchnogion cartrefi symudol.