Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 28 Chwefror 2017.
Mae'r rhan fwyaf o breswylwyr cartrefi mewn parciau yng Nghymru, fel y soniwyd, dros 55 oed ac mae'r adroddiad diweddaraf yn awgrymu eu bod, ar gyfartaledd, yn 71 mlwydd oed. Nid yw mwyafrif llethol y preswylwyr hyn yn rhagweld gadael neu werthu eu cartrefi yn y dyfodol agos. A wnewch chi, felly, gytuno â mi nad yw’r cynnydd i ffioedd lleiniau i dalu am golledion perchnogion parciau a fyddai'n deillio o ddiddymu neu leihau comisiynau gwerthu yn ateb hirdymor da, a pha ystyriaeth mae eich Llywodraeth wedi ei rhoi i hyn?