Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 28 Chwefror 2017.
Y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy’n casglu’r wybodaeth hon ac rydym ni’n deall, na chyflwynwyd unrhyw orchmynion amddiffyn yng Nghymru hyd at fis Medi 2016. Nid yw Llywodraeth Cymru yn goddef unrhyw fath o drais yn erbyn menywod, gan gynnwys anffurfio organau cenhedlu benywod, ac, ynghyd â'n partneriaid, rydym ni’n gweithio'n galed i fynd i'r afael â’r drosedd erchyll hon.