Part of the debate – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 28 Chwefror 2017.
Yn gyntaf oll, a gaf i ddweud nad wyf yn aml yn mynd yn grac iawn yn y Siambr hon â'r sylwadau a wneir gan aelodau o bob plaid, ond roeddwn yn grac am yr hyn a ddywedodd Dawn Bowden. Nid yw’r blaid hon erioed wedi beirniadu’r parafeddygon na'r gwasanaeth a ddarperir ganddynt. Rydym wedi bod yn feirniadol o'r amserau na lwyddwyd i’w bodloni dan fersiwn blaenorol y polisi hwn, ac roedd cyfiawnhad am hynny. Fel y dywedwch, Ysgrifennydd y Cabinet, roedd yn gyfnod anodd, ac roedd yn rhaid i chi gymryd rhai camau. Ac er y byddwn yn cytuno â chi i raddau mai canlyniadau yw’r pethau pwysicaf, mae un peth wedi digwydd yr oeddem yn ei ofni, ac ni wnaethoch chi fynd i'r afael â hwn Dawn: bod pobl yn cael eu methu gan y system newydd hon nad oedd yn cael eu methu o'r blaen, ac, o ganlyniad i hynny, nid ydynt yn cael yr hyn y byddech chi’n ei alw’n brofiad da, gofal o ansawdd da, neu’r daith orau drwy'r system. Ac ar gyfer hynny, rwy’n mynd i ddyfynnu un o fy etholwyr i—gŵr 80 mlwydd oed—a syrthiodd yn ei gartref, ac er gwaethaf ffonio 999 dro ar ôl tro, ni chafodd ymateb am fwy nag wyth awr. Roedd wedi cael toriad i asgwrn y forddwyd. Roedd mewn perygl o ddioddef o ddadhydradu, sioc a niwmonia. Roedd yn alwad oren. Nid oedd unrhyw olau glas yn ystod yr wyth awr hynny. Roedd y gŵr hwnnw, erbyn iddo gyrraedd yr ysbyty, bron iawn yr hyn y byddem bellach yn ei alw’n alwad goch. Bu bron iawn â marw.
Felly, does dim pwynt i chi ddod atom ni a dweud, Weinidog, nad yw'r categori oren yn achosi problemau. Yr hyn yr hoffwn i chi ei wneud yw cyflwyno i ni, neu roi ateb i mi heddiw, ynghylch faint o'r ymatebion oren i alwadau sydd wedi arwain at rywun yn cyrraedd yr adran ddamweiniau ac achosion brys mewn cyflwr y byddech chi wedyn yn ei alw’n gategori coch. I’ch helpu chi i ateb y cwestiwn hwnnw, un o'r rhesymau, rwy’n credu, pam yr ydym yn dal i gael anhawster wrth fodloni unrhyw fath o darged—er nad oes targed penodol gydag oren, nagoes—yw ein bod yn dal i gael anawsterau gydag ambiwlansys yn aros mewn rhes y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys. Ac efallai y gallwch chi ddweud wrthyf sut, os oes tystiolaeth glinigol ei fod yn syniad da, y cymerodd wyth awr a hanner i un o fy etholwyr i fynd trwy’r adran ddamweiniau ac achosion brys ddydd Iau yn Ysbyty Treforys. Ac yn y cyfnod hwnnw, sef dros nos, ac felly nid oedd yn ystod y cyfnod prysur yn ystod y dydd, roedd chwe ambiwlans yn ciwio y tu allan i’r adran ddamweiniau ac achosion brys i ryddhau eu cleifion. Croesawaf y ffaith bod parafeddygon yn teimlo'n well am hyn. Roedd ganddynt dargedau anodd i’w bodloni yn flaenorol, ond tybed faint ohonyn nhw fydd yn siarad â chi'n fuan i ddweud bod y categorïau oren hynny yr aethant iddynt mewn gwirionedd yn rhai coch. Diolch.