Part of the debate – Senedd Cymru am 4:14 pm ar 28 Chwefror 2017.
A gaf i ddiolch i Julie Morgan am ei chyfraniad? Mae Julie Morgan yn hyrwyddwr gwych dros ddefnyddio bysiau, nid dim ond yng ngogledd Caerdydd, ond ledled Cymru, a gwn fod cynaliadwyedd gwasanaethau bysiau lleol allweddol yn agos iawn at ei chalon. Mae cynllunio gwasanaethau bysiau a rhwydwaith bysiau ym mhob rhan o ardaloedd awdurdodau lleol yn hollbwysig wrth benderfynu ble i adeiladu eiddo masnachol, fel y gall pobl fynd i’r gwaith ar fws, ond ar gyfer anheddau domestig hefyd. Oherwydd hynny, rydym ni wedi gosod disgwyliad ar awdurdodau lleol i gynllunio llwybrau bysiau yn well sydd mewn gwirionedd yn bodloni anghenion teithwyr i gyrraedd y gwaith. Mae eu pwerau, eu hadnoddau, wedi eu cyfyngu ar hyn o bryd, o gofio’r cyni parhaus ac o gofio, hyd yn ddiweddar, y diffyg pwerau, a fydd yn dod ar gael maes o law. Ond mae hefyd yn hanfodol, wrth i ni ddatblygu'r metro yn y de-ddwyrain, ein bod yn cynnwys cynlluniau parcio a theithio a beicio a theithio priodol, ac ardaloedd parcio ac ardaloedd beicio, yn y cynlluniau ar gyfer trafnidiaeth integredig, fel y gall pobl newid o un dull o deithio i ddull arall gyda chyn lleied o drafferth a chost â phosibl. Ein bwriad ni yw sicrhau bod cwmnïau bysiau, mewn gwirionedd, yn gweithio gyda’i gilydd yn fwy cydweithredol—os oes angen, trwy ddeddfwriaeth—nid yn unig o safbwynt nodi llwybrau a sicrhau bod amserlenni yn cydweddu, ond hefyd i sicrhau bod trefniadau tocynnau aml-daith, aml-fodd ar waith. Un o'r honiadau a wnaed gan weithredwyr bysiau yn gyson yw’r anhawster o ran cyflwyno system aml-docynnau oherwydd yr her o ddyrannu’r lefel gywir o bris tocynnau i bob gweithredwr. Nid ydym o’r farn bod hyn yn her anorchfygol, ac mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni’n credu y dylai fod yn ddisgwyliad pan fydd y Llywodraeth wedi datblygu’r gofynion deddfwriaethol newydd a’r ymyraethau angenrheidiol i sicrhau bod y trefniadau tocynnau yn fwy addas i ddisgwyliadau teithwyr.
Mae'r gronfa bysiau gwell yn rhywbeth yr wyf yn dal yn fodlon ei hystyried. Ehangwyd y gronfa bysiau gwyrdd a'r cynllun dilynol sy'n cael ei weithredu gan Lywodraeth y DU—y gronfa allyriadau isel—i Gymru yn dilyn cais gennym ni a thrafodaethau llwyddiannus, ond, yn siomedig, ni fu unrhyw geisiadau o Gymru yn llwyddiannus hyd yn hyn. Rwy'n awyddus i weld ceisiadau llwyddiannus gan weithredwyr o Gymru, oherwydd gwyddom gan weithredwyr fel Stagecoach yn y de-ddwyrain a Bws Caerdydd, trwy fuddsoddi mewn bysiau modern, nid yn unig yr ydych chi’n lleihau allyriadau, ond gallwch hefyd wella prydlondeb ac ansawdd i deithwyr. Ac felly rwy'n agored i'r syniad o gronfa bysiau gwell gydategol, ond un sy'n rhoi ystyriaeth lawn i gyngor y grŵp cynghori ar bolisi bysiau, sydd wedi dweud na ddylid ei gyfyngu i gerbydau allyriadau isel yn unig, ond y gallai hefyd fod ar gael i weithredwyr sy’n dymuno gwella agweddau eraill ar brofiad teithwyr megis, fel yr amlygodd yr Aelod yn gywir, gwasanaeth Wi-Fi. Fy nghred i yw y dylai Wi-Fi yn awr fod ar gael fel mater o drefn ar bob bws. Ni ddylai fod yn eithriad, ni ddylai fod yn rhywbeth moethus, dylai fod yn ddisgwyliad sydd ar gael i bob teithiwr pryd bynnag y bydd yn mynd ar fws.