Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 28 Chwefror 2017.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig yn ffurfiol.
Rwy'n falch o agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru). Rwy'n ddiolchgar i Dai Lloyd, Huw Irranca-Davies a Simon Thomas a'u pwyllgorau priodol am graffu ar y Bil hyd yn hyn. Hoffwn hefyd gydnabod cyfraniad gwerthfawr rhanddeiliaid, sydd wedi cymryd rhan yn y broses drwy ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig a llafar.
Pan gyflwynais y Bil fis Tachwedd diwethaf, bûm yn siarad am swyddogaeth lwyddiannus deddfwriaeth o ran gwella a diogelu iechyd poblogaeth Cymru. Pwysleisiais hefyd fod deddfwriaeth yn ffurfio un rhan bwysig o agenda iechyd y cyhoedd ehangach gyda'r nod o atal niwed y gellir ei osgoi a symud yn nes at ein dyheadau ar gyfer Cymru iach a gweithgar. Mae'r Bil hwn yn gwneud cyfraniad pwysig i’r agenda honno drwy weithredu mewn meysydd penodol er budd grwpiau a chymunedau penodol yn eu cyfanrwydd. Rwyf wedi fy nghalonogi yn ystod y broses graffu o weld y gefnogaeth gyffredinol gref gan randdeiliaid a phwyllgorau i’r hyn y mae'r Bil yn ceisio ei gyflawni.
Mae pob cynnig yn y Bil yn ceisio sicrhau manteision gwirioneddol i bobl Cymru. Er enghraifft, bydd ymestyn y gyfundrefn ddi-fwg i leoliadau awyr agored ar dir ysgolion, ar dir ysbytai a meysydd chwarae cyhoeddus, yn ogystal â'r camau gweithredu eraill ar dybaco, yn torri tir newydd pwysig ac yn adeiladu ar y cynnydd sylweddol yr ydym wedi’i wneud dros lawer o flynyddoedd drwy amddiffyn plant rhag effeithiau niweidiol smygu. Mewn rhannau eraill o’r Bil, bydd y system drwyddedu gweithdrefnau arbennig yn cynnig nifer o fanteision uniongyrchol. Bydd y rhain yn cynnwys helpu i atal niwed y gellir ei osgoi i'r unigolion hynny sy'n dewis cael gweithdrefn arbennig, helpu pobl i ddod yn fwy gwybodus wrth feddwl am weithdrefn arbennig, a gweithio gyda’r sector fel bod y safonau arfer gorau yn dod yn safonau i bawb.
Er bod y Bil yn canolbwyntio'n briodol ar ddiwallu anghenion grwpiau penodol, mae hefyd yn cymryd camau pwysig er budd cymunedau cyfan. Bydd y gofyniad i gyrff cyhoeddus gynnal asesiadau effaith ar iechyd mewn rhai amgylchiadau o fudd i gymunedau drwy helpu i sicrhau bod penderfyniadau pwysig a gymerwyd yng Nghymru yn cael eu llywio gan asesiad o'u heffaith debygol ar iechyd corfforol a meddyliol. Mae'r newidiadau i'r ffordd y caiff gwasanaethau fferyllol eu cynllunio yn galluogi'r system i ddiwallu anghenion cymunedau lleol yn well ac yn adlewyrchu swyddogaeth iechyd cyhoeddus hanfodol fferyllfeydd cymunedol yn well. Mae'r gofyniad i awdurdodau lleol baratoi strategaethau tai bach lleol yn annog ffyrdd newydd a chreadigol o fynd i'r afael â mater iechyd cyhoeddus cymhleth.
Er bod y Bil eisoes wedi elwa o graffu trylwyr yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, mae’r Cynulliad Cenedlaethol hwn hefyd, yn gwbl briodol, yn defnyddio dull trylwyr iawn o graffu yn ystod Cyfnod 1, fel y dengys y dadansoddiad manwl a ddarperir yn y tri adroddiad pwyllgor. Rwy’n bwriadu ymateb yn ffurfiol i'r adroddiadau hynny, ond rwy’n falch heddiw o amlinellu fy myfyrdodau cychwynnol arnynt.
O'r 19 o argymhellion gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, rwy'n falch o ddweud fy mod i'n debygol o allu ymateb yn gadarnhaol i’r mwyafrif mewn amrywiaeth o ffyrdd. Bwriadaf gyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 a fydd yn ymateb yn uniongyrchol i rai o'r argymhellion. Bydd y rhain yn cynnwys gwelliannau sy’n ymateb i argymhelliad y pwyllgor ynglŷn â throseddau y bydd awdurdodau lleol yn gallu rhoi ystyriaeth iddynt wrth ystyried ceisiadau am drwyddedau gweithdrefnau arbennig. Bydd hyn yn enghraifft bendant o sut y bydd y broses graffu a mewnbwn gan randdeiliaid wedi cryfhau'r Bil yn uniongyrchol ac yn sylweddol. Rhagwelaf y bydd hefyd feysydd eraill lle rwy'n gallu ymateb yn gadarnhaol i awgrymiadau pwyllgorau mewn ffyrdd heblaw gwelliannau i'r Bil. Er enghraifft, byddaf yn gweithio gyda phartneriaid i gynhyrchu gwybodaeth sy'n cynorthwyo'r cyhoedd i leoli cyfleusterau tai bach sydd ar gael at ddefnydd lleol.
Fodd bynnag, er nad wyf yn anghytuno â'r bwriad sydd y tu ôl i'r argymhellion, bydd nifer cyfyngedig o achosion pan na fyddaf yn gallu ymateb yn union yn y modd y mae adroddiad y pwyllgor yn ei argymell. Er enghraifft, nid wyf yn gallu ychwanegu triniaethau laser at y system drwyddedu gweithdrefnau arbennig ar hyn o bryd o ganlyniad i nifer o faterion, gan gynnwys y risgiau posibl o ddyblygu rheoleiddio. Fodd bynnag, mae'r Bil yn caniatáu ar gyfer ymchwilio ymhellach i’r mater hwn maes o law, gan ganiatáu ar gyfer ymgynghori'n briodol ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, awdurdodau lleol a'r cyhoedd.
Mae rhai o'r argymhellion yn adroddiad y pwyllgor yn codi materion cymhleth, sy'n gofyn am ystyriaeth drylwyr. Rwy'n arbennig o ymwybodol o'r ystyriaeth fanwl y mae’r pwyllgor wedi’i rhoi o ran cyfyngu ar yr oedran mwyaf priodol ar gyfer triniaethau rhoi twll mewn rhannau personol o’r corff, er enghraifft. Rwyf wedi nodi'n flaenorol fy mod yn edrych eto’n fanwl ar y mater hwn o ystyried y dystiolaeth a ddarparwyd yn ystod Cyfnod 1 ac rwy’n gobeithio y gallaf amlinellu fy safbwynt heddiw. Yn anffodus, oherwydd yr ystyriaethau cymhleth dan sylw, mae'r gwaith manwl angenrheidiol, er ei fod bron wedi'i gwblhau, yn parhau. Fodd bynnag, rwy’n awyddus i sicrhau’r Aelodau fy mod yn rhoi ystyriaeth weithredol a thrylwyr iawn i'r mater hwn, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau cyn gynted ag yr wyf yn gallu gwneud hynny.
Mae mater cymhleth arall a godwyd gan y pwyllgor yn ymwneud ag ymestyn gofynion di-fwg i leoliadau ychwanegol. Er fy mod yn cydnabod y bwriad y tu ôl i argymhelliad y pwyllgor ar y pwynt hwn, mae materion o'r fath yn eu hanfod yn gymhleth. Hoffwn bwysleisio bod darpariaethau'r Bil sydd, am y tro cyntaf erioed, yn ceisio ymestyn gofynion di-fwg i dri man agored, eisoes yn dangos ymrwymiad cryf Llywodraeth Cymru i'r egwyddor o ymestyn ardaloedd di-fwg, gyda'r nod o atal plant rhag gweld smygu fel gweithgaredd arferol a bob dydd. Fel arwydd pellach o'n hymrwymiad i'r egwyddor hon, gallaf gadarnhau heddiw fy mod i'n rhoi ystyriaeth weithredol i bedwerydd lleoliad, sef lleoliadau blynyddoedd cynnar, gan ymateb yn uniongyrchol i drafodaethau'r pwyllgor. Fodd bynnag, oherwydd y gwaith manwl angenrheidiol, nid wyf yn gallu ymrwymo i gyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2, ond rwy’n rhagweld y gellir cwblhau’r gwaith hwn i fy ngalluogi i gyflwyno gwelliannau gerbron y Cynulliad yn ystod Cyfnod 3.
Gan droi yn fyr at argymhellion y pwyllgorau eraill, mae hefyd rai meysydd lle’r wyf o blaid gwneud ymatebion cadarnhaol. Mae'r rhain yn cynnwys cadw at fy ymrwymiad blaenorol i gyflwyno gwelliannau yn ymwneud ag awdurdodau gorfodi, a fydd yn helpu i leddfu pryderon sy'n sail i argymhelliad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Gallaf hefyd ddweud, mewn ymateb i argymhelliad y Pwyllgor Cyllid, fy mod i'n barod i ystyried y potensial ar gyfer nodi cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol i gefnogi gweithredu’r Bil yn gynnar, gan gydnabod rhan hanfodol y sector mewn gweithredu'r ddeddfwriaeth hon, ac adeiladu ar y ffyrdd sylweddol y mae'r Bil eisoes wedi cael ei gynllunio i helpu awdurdodau lleol i fodloni rhwymedigaethau y bydd y Bil yn eu gosod arnynt.
Mae heddiw yn nodi carreg filltir bwysig yn nhaith y Bil hwn. Rwy’n credu bod y broses graffu hyd yn hyn wedi bod o gymorth sylweddol, ac edrychaf ymlaen at gyfraniad yr Aelodau at y broses barhaus honno yn ystod y ddadl heddiw.