Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 28 Chwefror 2017.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rydw i’n falch iawn o allu cyfrannu at y ddadl yma heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i aelodau eraill o’r pwyllgor. Mae ein ffordd golegol o weithio wedi galluogi gwaith craffu cadarn ac, yn fy marn i, wedi ein harwain ni i ddatblygu casgliadau ac argymhellion clir i’r Gweinidog. Dylwn hefyd gymryd y cyfle hwn i ddweud ein bod yn hynod ddiolchgar i bawb a gymerodd yr amser i ysgrifennu atom a chyflwyno tystiolaeth inni yn un o’n cyfarfodydd ffurfiol, a bu sawl un o’r rheini.
Nawr, yn naturiol, mae iechyd y cyhoedd yn hanfodol bwysig, ac rydym ni i gyd yn ymwybodol o’r ystadegau echrydus sy’n amharu ar iechyd ein pobl—19 y cant o oedolion yng Nghymru yn dal i smygu, 40 y cant o oedolion yn yfed mwy o alcohol nag y dylen nhw, a thros hanner y boblogaeth yn rhy dew a ddim yn cadw’n heini yn rheolaidd. Fel yr ydym ni wedi’i glywed, dyma’r ail dro i Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) ddod gerbron y Cynulliad. Rydym ni i gyd yn gwybod na chafodd y cynnig i gymeradwyo’r Bil blaenorol ei dderbyn gan y pedwerydd Cynulliad, ac felly ni ddaeth yn Ddeddf. Mae’r Bil ger ein bron nawr yn cynnwys y cynigion gwreiddiol a gafodd eu hystyried gan y Cynulliad blaenorol, ond heb y darpariaethau sy’n cyfyngu ar y defnydd o ddyfeisiau mewnanadlu nicotin—e-sigarennau—mewn rhai mannau cyhoeddus. Mae’r pwyllgor iechyd wedi clywed siom gan rai bod y darpariaethau hyn wedi cael eu dileu. Fodd bynnag, barn y mwyafrif llethol o’r tystion oedd y bydd y Bil hwn yn helpu’r rheini sy’n gweithio yn y maes i yrru’r agenda o ran iechyd y cyhoedd yng Nghymru yn ei blaen, ac mae’n rhaid caniatáu i’r Bil symud ymlaen y tro hwn.
I droi at y casgliadau a’r argymhellion, rydym ni wedi gwneud nifer o argymhellion fydd yn cryfhau’r ddeddfwriaeth, yn ein barn ni, fel yr ydym ni wedi’i glywed, a byddaf yn canolbwyntio fy sylwadau ar ddim ond rhai o’r rheini, yn nhermau amser. Nawr, rydym ni’n croesawu’r cyfyngiadau arfaethedig ar ysmygu ar dir ysgolion, tir ysbytai a meysydd chwarae cyhoeddus. Rydym ni yn credu y bydd hyn yn chwarae rhan bwysig wrth ddiogelu pobl rhag niwed mwg pobl eraill, yn ogystal â darparu llai o gyfleoedd i weld pobl yn smygu. Nid yw’n rhywbeth normal i’w wneud. Fodd bynnag, rydym yn credu bod angen manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i gynnig y lefel hon o amddiffyniad, ac felly rydym ni yn argymell bod y Gweinidog, fel mater o flaenoriaeth, yn ymgymryd â’r gwaith angenrheidiol i ymestyn y cyfyngiadau ar ysmygu i leoliadau addysg a gofal plant yn ystod y blynyddoedd cynnar—rwy’n clywed bod hynny wedi cael ei ganiatáu—gât yr ysgol a’r ardaloedd o amgylch meysydd chwarae cyhoeddus. Buaswn i’n licio pwyso yn benodol ar y Gweinidog. Dyna ein hargymhelliad rhif 3 ni.
Mae’r sylwadau nesaf yn ymwneud â'r mater o roi twll mewn rhannau personol o'r corff—‘intimate piercings’, felly. Mae'r Bil, fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, yn cynnig y dylai'r oed cydsynio ar gyfer rhoi twll mewn rhan bersonol o'r corff fod yn 16 mlwydd oed. Gwnaethom wrando ar y rhesymeg dros bennu'r terfyn oedran yn 16 oed, ac rydym ni’n gwybod mai dyma’r oedran cydsynio ar gyfer gweithgaredd rhywiol, ac, fel pwyllgor, rydym ni’n cydnabod bod gan blant a phobl ifanc yr hawl i benderfynu beth i’w wneud gyda’u cyrff eu hunain. Fodd bynnag, yna wnaethom ystyried hyn yn erbyn pwysau’r dystiolaeth gan weithwyr proffesiynol ym maes meddygaeth ac iechyd amgylcheddol sydd wedi gweld eu hunain yr effaith y gall rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff ei gael ar gorff sy’n dal i ddatblygu. Cawsom wybod bod ‘difrod sylweddol’ yn gallu cael ei wneud o ganlyniad i dyllu o’r fath.
Clywsom awgrymiadau hefyd o gysylltiad posibl rhwng rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff person ifanc 16 i 17 mlwydd oed a cham-fanteisio’n rhywiol ar bobl ifanc. Gwnaethom hefyd ddysgu wrth gasglu tystiolaeth y gallai rhoi twll mewn organau cenhedlu person dan 18 mlwydd oed gael ei ystyried yn fath o anffurfio organau rhywiol merched—‘female genital mutilation’, felly—dan ddiffiniad Sefydliad Iechyd y Byd, ac felly mae'n ddigwyddiad troseddol y dylid rhoi gwybod amdano i’r awdurdodau.
Ar y sail hon, nid ydym yn credu bod y cydbwysedd cywir wedi cael ei daro rhwng hawl pobl ifanc i gael llais a’r hawliau a ddylai fod gan bob person ifanc dan 18 mlwydd oed yng Nghymru i gael ei amddiffyn gan erthyglau confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Felly, rydym ni’n gwbl argyhoeddedig fel pwyllgor y dylai’r oedran cydsynio gael ei bennu’n 18 mlwydd oed, ac rydym wedi argymell bod adran 92 o’r Bil yn cael ei diwygio i wahardd rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff, neu wneud trefniadau ar gyfer hynny, ar gyfer person sydd o dan 18 mlwydd oed. Dyna argymhelliad 14.
Roeddem hefyd wedi ein synnu ac yn bryderus o glywed nad yw’r troseddau sy’n cael eu rhestru yn adran 63(3) o'r Bil a fyddai'n atal ymarferydd rhag cael trwydded i ddarparu triniaethau arbennig, sy’n cynnwys rhoi twll mewn rhan bersonol o'r corff, yn cynnwys troseddau rhywiol. Rwy’n clywed beth mae’r Gweinidog wedi’i ddweud heddiw. Mae hyn, yn ein barn ni, yn bryder sylweddol a pherthnasol iawn o’i ystyried bod unrhyw un o’r triniaethau a enwir yn y Bil yn gallu cael eu gwneud ar ran bersonol o’r corff. Nid ydym yn derbyn fel pwyllgor bod y Bil hwn yn ‘Fil iechyd y cyhoedd’ yn hytrach na Bil ‘diogelu’. Yn wir, mae’r memorandwm esboniadol sy'n gysylltiedig â'r Bil yn sôn am yr angen i osgoi amgylchiadau lle mae plant a phobl ifanc yn cael eu rhoi mewn sefyllfa lle gallent fod yn agored i niwed. Felly, rydym yn gadarn o’r farn y dylai’r troseddau sy'n cael eu rhestru yn adran 63(3) gael eu diwygio i gynnwys ‘troseddau rhywiol’—argymhelliad 13.
Yn olaf, allwn ni ddim siarad am iechyd y cyhoedd heb grybwyll yr her fwyaf, fwy na thebyg, i iechyd y cyhoedd sy’n wynebu ein cenedl, sef gordewdra. Roedd yr arolwg diweddaraf o ran iechyd Cymru yn dangos bod 59 y cant o oedolion yng Nghymru yn cael eu dosbarthu fel eu bod dros eu pwysau neu’n ordew, gan gynnwys 21 y cant yn ordew. Mae gordewdra yn fygythiad mor ddifrifol i iechyd y boblogaeth na allwn ei anwybyddu, ni waeth pa mor anodd neu gymhleth yw’r her.
Rydym ni yn cytuno efo’r Gweinidog nad oes unrhyw un darn o ddeddfwriaeth yn gallu ymdrin â’r holl ffactorau sy’n ymwneud â gordewdra—bydd yn gofyn i ni ymdrin â’r mater o sawl ongl—ond rydym yn rhannu pryderon rhanddeiliaid bod diffyg unrhyw fesurau penodol i fynd i’r afael â’r mater yn y Bil. Yn wir, daeth i’n sylw wrth i ni gasglu tystiolaeth bod camau eisoes y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd, ond nid yw’r pwerau presennol yn y maes hwn yn cael eu defnyddio i’r eithaf. Felly, rydym ni wedi annog y Gweinidog i ystyried ein hargymhelliad 2 ac ymchwilio i’r potensial, drwy’r ddeddfwriaeth hon ac o dan bwerau sydd eisoes yn bodoli, i gyflwyno Bilau i fynd i’r afael â gordewdra a materion eraill sydd â blaenoriaeth o ran iechyd y cyhoedd, fel ymestyn safonau maeth sydd eisoes mewn bodolaeth yn ysgolion i ysbytai a chartrefi preswyl, er enghraifft. Ond, ar y cyfan, rydym ni’n croesawu’r cynigion yn y Bil yn gyffredinol ac yn credu y bydd yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd y cyhoedd. Am y rheswm hwn, rydym yn argymell, fel pwyllgor, bod y Cynulliad yn derbyn yr egwyddorion cyffredinol yma heddiw. Diolch yn fawr.