Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 28 Chwefror 2017.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n siŵr ei fod yn arwydd o pa mor bwysig yw iechyd y cyhoedd bod, rwy’n credu, tri phwyllgor yn mynd i adrodd ar y Bil yma wrth inni fwrw drwyddi.
Rwy’n credu ei fod yn bwysig i ni ddweud yn y lle cyntaf fod y pwyllgor wedi croesawu’r ffaith bod gwelliant sylweddol wedi bod o ran cyflwyno’r Bil yma o’i gymharu â’r Bil blaenorol yn y ffordd mae’r costau a’r manteision wedi’u cyflwyno yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Mae’r pwyllgor wedi adrodd o’r blaen pa mor bwysig yw hi bod y wybodaeth yma mor glir â phosibl er mwyn osgoi dryswch. Mae’n dda, felly, croesawu’r ffaith fod y Bil yma yn gwneud hynny’n fwy clir na’r Bil a gyflwynwyd yn y Cynulliad diwethaf.
Rydym hefyd yn croesawu’r sicrwydd a gafwyd gan y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Swyddfa Archwilio Cymru i wella’r wybodaeth ariannol a roddir mewn asesiadau effaith rheoleiddiol. Mae hwn yn fater y byddwn yn parhau, fel Pwyllgor Cyllid, i’w fonitro wrth graffu ar oblygiadau ariannol deddfwriaeth a gyflwynir yn ystod y Cynulliad hwn.
Y prif destun pryder, o ran cyllid yn y Bil, sydd wedi’i amlygu yn ein hadroddiad ni yw’r ffaith fod baich ariannol yn cael ei roi ar gyrff cyhoeddus, yn enwedig awdurdodau lleol, o ran gweithredu darpariaethau’r Bil. Rydym wrth gwrs yn sylweddoli bod y Bil yn cynnwys darpariaethau sy’n caniatáu i awdurdodau lleol godi arian drwy ffioedd, yn enwedig trwy gofrestriadau ar y gofrestr nicotin, ceisiadau i drwyddedu ymarferwyr triniaethau arbennig a hysbysiadau cosb benodedig. Wrth gwrs, fe all awdurdodau lleol yn eu tro ail-fuddsoddi’r arian hwn er mwyn cyflawni eu rhwymedigaethau arolygu.
Fodd bynnag, roeddem ni’n bryderus o hyd fod y buddsoddiad y mae disgwyl i awdurdodau ei wneud i roi’r Bil ar waith yn faich anghyBil, o ystyried na fyddent yn elwa ar y buddion arfaethedig am gryn amser. Felly, rwy’n croesawu’r ffaith fod y Gweinidog, wrth agor y ddadl yma, wedi dweud bod y Llywodraeth yn ailedrych ar yr agwedd yma ac yn edrych ar sut y gellir ariannu o leiaf costau cychwynnol y Bil a chynorthwyo awdurdodau cyhoeddus, yn enwedig awdurdodau lleol, sydd yn gorfod gweithredu’r Bil, os daw yn Ddeddf, cyn cael y ffordd o gasglu arian refeniw o ddarpariaethau’r Bil.
Mae’n codi cwestiwn ehangach, Ddirprwy Lywydd, ynglŷn ag a yw Llywodraeth Cymru yn disgwyl i lywodraeth leol ysgwyddo baich y cyfrifoldebau newydd, ac mae’r Pwyllgor Cyllid yn ymwybodol iawn fod, yn y gorffennol, cytundeb wedi bod rhwng Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ariannu cyfrifoldebau newydd wrth gyflwyno deddfwriaeth. Mae hynny’n fater efallai y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol am ddychwelyd ato.
Rydym hefyd yn nodi nad yw’r wybodaeth ariannol a ddarperir yn dangos a fyddai awdurdodau lleol yn casglu swm digonol drwy hysbysiadau cosb benodedig i dalu am y gost o orfodi’r darpariaethau, yn benodol wrth gwrs yn gysylltiedig â’r gofrestr nicotin. Mae’r ffaith nad yw’r wybodaeth hon ar gael yn destun pryder inni, gan y gallai manylion o’r fath gynorthwyo awdurdodau lleol i asesu’r goblygiadau ariannol a allai fod ynghlwm wrth roi darpariaethau’r Bil ar waith. Credwn ei fod yn bwysig, felly, fod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gyhoeddi faint o arian a godir gan bob awdurdod lleol drwy incwm hysbysiadau cosb benodedig i dalu’r costau gorfodi—hynny yw, ein bod yn cael cadw golwg a monitro’r costau y mae’r awdurdodau lleol yn eu hwynebu wrth orfodi’r polisi yn eu cymunedau nhw.
Fe fyddai awdurdodau lleol hefyd yn wynebu costau yn sgil paratoi strategaethau tai bach. Er na ddylai’r costau hyn fod yn sylweddol iawn, rydym yn cwestiynu a fyddai’r broses o baratoi strategaeth ohoni’i hun yn arwain at well mynediad at dai bach i’r cyhoedd, ac felly a fyddai’r buddsoddiad yn rhoi gwerth am arian. Rydym wedi argymell, felly, y dylai Llywodraeth Cymru adolygu pa mor effeithiol fyddai’r darpariaethau sy’n ymwneud â thai bach cyhoeddus—rhywbeth a ddenodd gryn sylw gan y cyhoedd, rwy’n gwybod, wrth edrych ar y Bil hwn.
Yn olaf, hoffwn ailadrodd ein hargymhellion yn ymwneud â chostau gweithredu’r darpariaethau o safbwynt is-ddeddfwriaeth. Rydym yn sylweddoli y caiff asesiadau effaith rheoleiddiol eu paratoi i ddangos y costau a’r manteision wrth i bob gwahanol ddarn o is-ddeddfwriaeth gael ei gyflwyno. Er hynny, nid yw gwybodaeth o'r fath yn cael ei chynnwys yn y costau a'r manteision ar gyfer y Bil hwn. Rydym yn credu bod y wybodaeth hon yn bwysig er mwyn galluogi'r Cynulliad i ddeall y costau a'r manteision yn llawn. Rydym felly wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu dull mwy cyson o ddarparu costau sy'n gysylltiedig ag is-ddeddfwriaeth ar gyfer pob Bil er mwyn gallu craffu’n well ar gostau a manteision llawn pob Bil.