Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 28 Chwefror 2017.
Fel aelod o'r pwyllgor iechyd, hoffwn ddiolch i'n Cadeirydd ac aelodau eraill y pwyllgor am y ffordd golegol yr ydym wedi gweithio gyda'n gilydd ar y Bil hwn. Hefyd, diolch i swyddogion iechyd ac asiantaethau allanol am ddarparu eu tystiolaeth i ni.
Bydd UKIP yn cefnogi egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru). Mae llawer i’w ganmol am y Bil hwn. Rydym yn croesawu'r camau a gymerwyd i gryfhau’r cyfyngiadau ar werthu cynnyrch tybaco a nicotin i bobl ifanc. Rydym yn croesawu'r bwriad i atal smygu mewn mannau lle mae plant yn bresennol. Rydym yn croesawu’r camau a gymerir i wella iechyd a diogelwch o ran tatŵio a thyllu, yn ogystal â sicrhau bod pobl sy'n cyflawni’r gweithdrefnau hyn yn cael eu trwyddedu a'u cofrestru. Teimlir bod angen ystyried ymhellach a yw oedran cydsynio o 16 yn rhy ifanc ar gyfer rhoi twll mewn rhannau personol o’r corff. Rydym hefyd yn croesawu’n fawr cyflwyno’r asesiadau effaith ar iechyd.
Fodd bynnag, mewn llawer o feysydd, nid yw’r Bil yn mynd yn ddigon pell. Fel y dywedodd llawer o rai eraill, nid yw’r Bil iechyd y cyhoedd bondigrybwyll hwn yn mynd i'r afael â her fwyaf ein hoes ni i iechyd y cyhoedd: yr epidemig gordewdra sy'n wynebu ein cenedl. Mynegodd llawer o'r rhai a roddodd dystiolaeth i ni ar y pwyllgor iechyd eu siom nad yw’r Bil yn gwneud dim i fynd i'r afael â gordewdra, camddefnyddio alcohol, ansawdd aer gwael neu unigrwydd ac arwahanrwydd. Rwy’n rhannu eu siom ac yn gobeithio y gallwn fynd i'r afael â'r diffygion hyn yn ystod hynt y Bil drwy'r pwyllgor iechyd.
Mae un o fy siomedigaethau mwyaf gyda'r Bil fel y mae yn ymwneud â’r ddarpariaeth o dai bach cyhoeddus. Mae memorandwm esboniadol Llywodraeth Cymru ei hun ar gyfer y Bil yn cydnabod yr anghysonderau sy'n bodoli yn y ddarpariaeth o dai bach cyhoeddus ledled Cymru a'r ffaith nad oes dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol i ddarparu tai bach cyhoeddus. Er ei bod yn fwriad gan y Gweinidog i wella darpariaeth tai bach i bawb, mae llawer o'r rhai a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor iechyd yn teimlo bod y Bil yn siom enfawr ac na fyddai'n arwain at unrhyw welliannau mawr. Yn anffodus, i lawer yn ein cymdeithas, mae diffyg tai bach cyhoeddus hygyrch yn ddedfryd o garchar. Mae pobl ag ystod o gyflyrau meddygol yn cael eu caethiwo yn eu cartrefi eu hunain, yn y bôn, oherwydd diffyg tai bach cyhoeddus ar draws Cymru. Ni fydd y ffaith bod y Bil ddim ond yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau baratoi strategaeth tai bach cyhoeddus yn gwneud dim i wella'r ddarpariaeth neu dawelu pryderon y rhai yr effeithir arnynt gan y diffyg darpariaeth. Roedd y pryderon hyn yn cael eu rhannu nid yn unig gan y grwpiau cleifion a'r comisiynydd pobl hŷn, ond hefyd gan Gydffederasiwn y GIG, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd ac Iechyd y Cyhoedd Cymru, a ddywedodd wrth y pwyllgor iechyd y bydd y pwysau ariannol ar gynghorau yn golygu na fydd strategaeth yn gwella'r ddarpariaeth.
Teimlai'r rhan fwyaf o randdeiliaid a roddodd dystiolaeth i ni yn y pwyllgor iechyd y dylai fod yn ddyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i weithredu'r strategaethau tai bach cyhoeddus. Mae'r Gweinidog wedi dweud ei bod yn teimlo, o ystyried y pwysau ariannol ar awdurdodau lleol, na fyddai'n bosibl gosod y ddyletswydd statudol hon arnynt. Rwy'n teimlo ein bod yn siomi pobl Cymru drwy beidio â chael strategaethau tai bach gorfodadwy ac rwy’n gobeithio y gallwn gryfhau gorfodaeth o'r strategaethau hyn drwy ddulliau eraill. Efallai mai dyletswydd Llywodraeth Cymru, yn y pen draw, yw sicrhau bod strategaethau lleol yn gwneud darpariaeth ddigonol ar gyfer tai bach cyhoeddus. Mae angen i ni edrych ar yr holl opsiynau ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru i gryfhau'r Bil wrth iddo fynd yn ei flaen drwy'r Cynulliad. Diolch yn fawr iawn.