Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 28 Chwefror 2017.
Roeddwn i eisiau siarad yn fyr iawn, os caf i, yn y ddadl bwysig hon. A gaf i groesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi dod â Bil yn ôl heb unrhyw gynigion am gyfyngiadau sylweddol ar e-sigaréts? Rydym yn gwybod ein bod wedi cael rhywfaint o lwyddiant wrth ostwng cyfraddau smygu yma yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae hynny wedi mynd law yn llaw â phobl yn dewis cael e-sigarét yn hytrach na smygu tybaco, sydd yn amlwg yn llawer mwy buddiol i'w hiechyd.
A gaf i hefyd ei roi ar gofnod gymaint yr wyf yn cytuno'n llwyr â Jenny Rathbone, a wnaeth achos cryf, yn fy marn i, dros isafbris alcohol yma yng Nghymru? Gallaf gofio, pan oeddwn yn ymwneud yn gyntaf â’r briff iechyd cysgodol nifer o flynyddoedd yn ôl, imi gael sgwrs gydag Alcohol Concern Cymru am hyn. Roeddwn yn gwrthwynebu’n llwyr gael unrhyw fath o isafbris alcohol, ond pan edrychais ar yr ystadegau, roeddent yn llwm iawn o ran fforddiadwyedd sylweddol alcohol o’i gymharu â'r sefyllfa yn ôl yn y 1970au a'r 1980au. Mae pris alcohol, mewn termau cymharol, wedi gostwng yn sylweddol fel cyfran o incwm pobl. Rwy’n credu ei bod yn bryd i ni dderbyn cyfrifoldeb a chyflwyno rhai cynigion ar isafbris alcohol. Byddai hyn yn ymdrin â'r niwed y mae alcohol yn ei achosi i gymdeithas a'r costau sylweddol y mae alcohol yn eu rhoi ar drethdalwyr o ran ceisio clirio cost trin clefydau sy'n gysylltiedig ag alcohol, a chanlyniadau troseddu oherwydd alcohol, wrth gwrs, na wnaeth Jenny eu crybwyll mewn gwirionedd.
O ran y gofynion di-fwg, rwy’n croesawu rhai o'r estyniadau a gyflwynwyd sydd wedi cael eu dwyn ymlaen gan y Llywodraeth, ond bydd y Gweinidog yn gwybod fy mod wedi codi gyda hi gynnig gan blant ysgol yn fy etholaeth i yn Ysgol Pen y Bryn ym Mae Colwyn, sydd mewn gwirionedd wedi dweud mai un o'r pethau y maent wir yn ei gasáu yw hongian o gwmpas mewn arosfannau bysiau pan fydd pobl yn pwffian ar sigaréts. Rwy’n meddwl, yn enwedig rhwng yr oriau y mae plant yn teithio i'r ysgol ac oddi yno, efallai y bydd rhywbeth y gallech ei ystyried o bosibl o ran cyfyngu ar smygu mewn arosfannau bysiau, gan ei fod yn fan lle mae plant yn ymgynnull yn rheolaidd. Rwy’n meddwl bod eich bwriadau yn gwbl gywir o ran yr ymgyrch i atal pobl rhag smygu mewn ardaloedd lle mae plant yn ymgynnull, ond mae hynny, rwy’n credu, yn fuddugoliaeth hawdd ac mae'n anodd gweld pam nad ydych wedi gallu ei roi ar wyneb y Bil ar hyn o bryd. Tybed, Weinidog, a allech ddweud a yw hynny'n rhywbeth yr ydych yn barod i’w ystyried yng Nghyfnod 2.
O ran tai bach cyhoeddus, yn amlwg, un o'r pethau a gynigiwyd gennym yng Nghyfnod 3 pan oedd y Bil blaenorol yn cael ei drafod yn y Cynulliad diwethaf, oedd yr angen nid yn unig am strategaethau lleol ar gyfleusterau cyhoeddus, ond hefyd, wrth gwrs, am ddatblygu strategaeth genedlaethol. Ymddengys bod y Llywodraeth yn dweud y dylai awdurdodau lleol gynhyrchu eu strategaethau lleol ac, os nad ydynt yn llwyddo, yna gall yr etholwyr gael gwared arnynt yn yr etholiad nesaf. Mae hynny'n hollol iawn ar gyfer tai bach sy'n bwysig yn lleol, ond y broblem yw bod rhai tai bach sy’n bwysig yn strategol yn genedlaethol nad ydynt yn bwysig i’r etholwyr lleol. Felly, er enghraifft, cafwyd dyfyniad enwog, ar lawer achlysur—a bydd Kirsty Williams yn falch fy mod yn codi'r pwynt hwn—bod tai bach ar hyd cefnffordd yr A470 nad ydynt, a dweud y gwir, yn cael eu defnyddio yn aml gan y bobl leol, ond sy’n cael eu defnyddio lawer gan bobl sy'n pasio drwodd ar y gefnffordd, neu bobl sy'n ymweld â’r ardal honno. Wrth gwrs, ni fydd gan yr unigolion hynny bleidlais leol, ym Mhowys, i gael gwared ar y cynghorwyr lleol sy'n gwrthod cydnabod pwysigrwydd y cyfleusterau hynny.
Mae hyn yn rhywbeth y mae'r Llywodraeth, i fod yn deg, wedi ei gydnabod fel problem, a dyna pam mae'r Llywodraeth wedi rhoi cyllid i gynnal a chadw rhai o'r tai bach cyhoeddus hynny. Eto i gyd, nid oes darpariaeth o gwbl ar gyfer strategaeth cyfleusterau cyhoeddus ar sail genedlaethol er mwyn gwneud yn siŵr y cyfrifir ar gyfer y bylchau hynny yn y ddarpariaeth. A gadewch i mi ddweud wrthych, mae’r ffaith nad oes unrhyw gyfleusterau cyhoeddus mewn rhai rhannau o Gymru yn gwahardd pobl, yn enwedig y rheini â chyflyrau meddygol, rhag mynd allan o'r tŷ a mynd ar deithiau hir. Mae hynny, rwy’n credu, yn annerbyniol a dyna pam rwyf am weld y Bil yn cael ei gryfhau. Tybed, Weinidog, a fyddwch yn ystyried cryfhau'r Bil drwy ddarparu rhyw fath o strategaeth genedlaethol, strategaeth gyffredinol sy'n edrych ar y ddarpariaeth ledled Cymru, y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros ei gweithredu mewn gwirionedd.