Part of the debate – Senedd Cymru am 6:18 pm ar 28 Chwefror 2017.
Rwy’n derbyn hynny, ac fe wnaeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol blaenorol ymrwymiad, pe byddai’r Bil yn llwyddo i ddod yn gyfraith, ei fod yn bwriadu ymgynghori ar yr egwyddor o ychwanegu gweithdrefnau ychwanegol at y rhestr a gwmpesir gan y Bil yn fuan ar ôl deddfu’r Bil, a byddwn yn hapus i ddal at yr ymrwymiad hwnnw.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig, fodd bynnag, nad ydym yn rheoleiddio gweithdrefnau sy'n cael eu hystyried yn ôl y gyfraith i fod yn ymosodiadau. Ar hyn o bryd mae achos yn Wolverhampton lle mae'r heddlu yn erlyn dyn a oedd yn perfformio triniaethau addasu’r corff megis tynnu clust, tynnu teth a hollti tafod. Ac mae wedi cael ei gyhuddo o dri achos o achosi niwed corfforol difrifol bwriadol, a chyhuddiadau amgen o glwyfo heb fwriad. Felly, rydym yn monitro datblygiad yr achos hwnnw i ddeall lle mae’r llinell yn gorwedd rhwng addasu’r corff ac ymosodiad.
Dylai digon o dystiolaeth gael ei darparu drwy'r broses ymgynghori maes o law i awgrymu bod triniaethau addasu’r corff yn cael eu cynnal yn aml yng Nghymru a'u bod yn risg sylweddol i iechyd pobl. Yna byddai angen gwneud gwaith pellach i ddeall cymhlethdodau cyfreithiol a moesegol y gweithdrefnau cyn i ni ystyried eu hychwanegu at y rhestr o weithdrefnau arbennig, drwy gyfrwng rheoliadau cadarnhaol. Ond, fel y dywedais, rwy’n dal at yr ymrwymiad a wnaed gan y Gweinidog blaenorol yn hyn o beth.
Cyfeiriodd nifer o Aelodau at y ffaith nad oes yn y Bil unrhyw gamau penodol i fynd i'r afael â gordewdra. Pan roddais dystiolaeth i'r pwyllgor, roeddwn yn awyddus i bwysleisio, mewn gwirionedd, nad yw’r Bil ond yn un rhan o gyfres ehangach o Filiau. Ac rwy’n deall y rhwystredigaethau a gafodd y pwyllgor mewn gwirionedd o ran gallu archwilio, gyda phobl sy'n rhoi tystiolaeth am y mathau o gamau gweithredu y gellid eu datblygu ar y sail hon. Rwy’n diolch i'r pwyllgor am yr awgrymiadau a wnaeth, ac yn pwysleisio ein bod yn gwbl ymroddedig i fynd i'r afael â'r agenda bwysig hon o ran iechyd y cyhoedd. Ni fydd hyn bob amser yn digwydd trwy ddeddfwriaeth; er enghraifft, mae gennym eisoes safonau maeth mewn ysgolion ac ysbytai, ac mae trafodaeth barhaus gydag ysbytai ynghylch sut y gallwn ymestyn bwyd iach i aelodau staff ac ymwelwyr ag ysbytai. Mae gennym ein gwaith ar y gweithle iach, y cynllun cenedlaethol ar gyfer atgyfeirio ymarfer corff, rhaglenni bwyta'n iach, ac rydym hefyd yn rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU ar y mater hysbysebu bwydydd afiach, yn enwedig i blant hefyd.
Rwy'n fodlon derbyn egwyddor argymhellion y pwyllgor sy’n cael eu gwneud yn hyn o beth, i'r graddau y maent yn ystyried materion a godwyd dan bwerau sydd eisoes yn bodoli a llwybrau deddfwriaethol eraill. Bydd y pwyllgor yn ymwybodol bod gwaith eisoes yn mynd rhagddo ar fater safonau maeth mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar a lleoliadau cartref gofal. Rwyf hefyd yn hapus i drafod ymhellach fater siwgr ychwanegol mewn ysgolion gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, er, unwaith eto, efallai mai diwygio rheoliadau fyddai’r ffordd o roi sylw i hynny yn hytrach nag ar wyneb y Bil hwn o anghenraid. Byddai'n rhaid ymgynghori’n briodol ar unrhyw newidiadau yno hefyd.
Gwn fod y pwyllgor iechyd wedi gwneud nifer o argymhellion o ran cael mynediad at dai bach. Hoffwn gadarnhau y bydd disgwyl i awdurdodau lleol feddwl am dwristiaid a digwyddiadau ac ati—felly nid y boblogaeth leol yn unig—a materion cydraddoldeb ehangach hefyd pan fyddant yn paratoi eu dull o weithredu yn lleol. Felly, rwy'n fodlon derbyn yr argymhelliad ein bod yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu map cenedlaethol. A gallaf ddweud wrth yr Aelodau bod fy swyddogion wrthi'n gweithio gyda'u cymheiriaid TG i ystyried y seilwaith sydd ei angen i gasglu'r data priodol gan awdurdodau lleol ac ymgorffori’r rheini yn yr offer mapio sy'n bodoli eisoes. Gallai’r data hynny, wedyn, fod ar gael i drydydd partïon fyddai’n gallu datblygu mapiau ac apps eraill, er enghraifft, hefyd—rwy’n gwybod bod yna awydd i ddatblygu apiau. Wrth ystyried barn y pwyllgor a thystion arbenigol, rwyf hefyd wedi gofyn i swyddogion archwilio opsiynau ar gyfer datblygu logo hawdd ei adnabod y gellid ei arddangos mewn cyfleusterau tai bach hygyrch i'r cyhoedd ledled Cymru.
O ran isafswm pris uned, rydym yn cydnabod yn llwyr ddifrifoldeb yr heriau a achosir gan alcohol i’n cymdeithas, i unigolion ac i gymunedau ehangach. Mae'n parhau i fod yn ddyhead gennym i weithredu ar y mater hwn, yn enwedig mater isafswm pris uned. Ond cyfeiriodd Jenny Rathbone at y ffaith bod ymdrechion yn yr Alban wedi cael eu cyfeirio at y Goruchaf Lys. Felly byddwn yn edrych yn fanwl iawn ar yr hyn sy'n digwydd yno. A phan fyddaf yn gallu dweud mwy wrth y Cynulliad am y mater hwn, byddaf yn gwneud hynny.
Yn olaf, rwyf eisiau cadarnhau fy mod hefyd yn credu bod unigrwydd ac arwahanrwydd yn fater pwysig o ran iechyd y cyhoedd. Mae gennym ymrwymiad yn ein rhaglen lywodraethu i ddatblygu strategaeth draws-lywodraethol i fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd. Fel y dywedais, ac fel mae’r Aelodau yn sylweddoli, mae’r Bil iechyd y cyhoedd hwn sydd ger ein bron heddiw yn ddarn pwysig iawn o ddeddfwriaeth ac mae'n parhau i fod yn un o nifer o ffyrdd yr ydym yn ceisio mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu pobl Cymru o ran iechyd y cyhoedd.