Part of the debate – Senedd Cymru am 6:23 pm ar 28 Chwefror 2017.
Diolch. Cynigiaf y cynnig yn ffurfiol a hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am ei waith craffu ar y Bil eto. Byddaf yn ysgrifennu'n ffurfiol at y pwyllgor i amlinellu fy ymateb yn fanwl, ond rwy’n bwriadu ymateb yn gadarnhaol i'r rhan fwyaf o'r argymhellion hynny. A byddaf yn gosod memorandwm esboniadol diwygiedig ac asesiad effaith rheoleiddiol cyn Cyfnod 3, yn ôl yr hyn sy'n ofynnol gan y Rheolau Sefydlog.