Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 1 Mawrth 2017.
Diolch, Weinidog, am eich datganiad ddoe ar wella’r gwasanaethau bysiau. Roedd gennyf ddiddordeb yn eich cynlluniau i wella’r profiad mewn safleoedd bysiau, yn enwedig drwy ddarparu mwy o wybodaeth electronig. Gall hynny amrywio o ganlyniad i ffactorau daearyddol. Er enghraifft, yng Nghymoedd de Cymru, mae’r safleoedd bysiau yn tueddu i fod yn llai o gymharu gyda phrinder llochesi, a hefyd mae’r band eang yn amrywio. Felly, tybed beth yw eich cynlluniau i wella’r profiad mewn safleoedd bysiau yn y Cymoedd.