<p>Hyrwyddo Sir Benfro fel Cyrchfan Dwristiaeth</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 1 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:04, 1 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i Paul Davies am ei gwestiwn a dweud wrtho mewn gwirionedd fy mod yn treulio bob gwyliau haf yn Sir Benfro? Credaf ei bod yn un o’r ardaloedd harddaf a mwyaf deniadol, nid yn unig yng Nghymru ond yn Ewrop. Rwy’n falch o ddweud bod partneriaeth cyrchfan Sir Benfro wedi llwyddo i sicrhau adnoddau sylweddol eleni fel rhan o ymgyrch Blwyddyn y Chwedlau de-orllewin Cymru, sy’n dod â gwahanol awdurdodau lleol ynghyd i ddathlu’r chwedlau ar draws y rhanbarth.

Credaf hefyd y bydd y flwyddyn nesaf, Blwyddyn y Môr, yn gyfle gwerthfawr i Sir Benfro. Gallaf ragweld nifer o ddigwyddiadau ysblennydd a chynhyrchion newydd yn cael eu hariannu gan y Llywodraeth drwy’r cynllun cymorth buddsoddi mewn twristiaeth a thrwy fesurau ariannol eraill.

Rwy’n ymwybodol iawn fod Tyddewi yn ystyried gwneud cais am statws dinas diwylliant. Byddai hon yn gamp wych pe gallent ei chyflawni. Rwyf hefyd yn ymwybodol fod Abertawe yn ystyried gwneud cais. Byddaf yn cyfarfod â threfnwyr y ddwy ddinas dros yr wythnosau nesaf. Er na allaf ddweud ar hyn o bryd a wyf yn ffafrio’r naill gynnig dros y llall, pe bai cais yn cael ei gyflwyno gan un ohonynt ac nid y llall, gallaf ddweud y byddai’n cael cefnogaeth Llywodraeth Cymru.