Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 1 Mawrth 2017.
Wel, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud yn gyson na ddylai unrhyw staff golli swyddi o ganlyniad i adolygu’r ystad ar gyfer y dyfodol, ac ar hyn o bryd maent yn recriwtio mwy o hyfforddwyr gwaith. Mae proses ymgynghori barhaus ar y gweill yn y swyddfeydd a gwyddom fod yr ymgynghoriad hwnnw yn edrych hefyd ar opsiynau ar gyfer adleoli.
Fodd bynnag, rydym yn bryderus iawn ynglŷn â beth a allai ddeillio o’r cynigion. Mae llawer o’r cyfleoedd adleoli yng Ngogledd Caerdydd neu yn Noc Penfro, er enghraifft, yn ymddangos yn afresymegol ac yn anymarferol. Maent yn bygwth gadael staff a chymunedau yn waeth eu byd o lawer, ac rydym yn annog Llywodraeth y DU i ailfeddwl ac i weithio gyda ni i sicrhau bod staff yn cael eu hadleoli, os oes angen, yn y lleoedd gorau er mwyn iddynt allu parhau i wasanaethu’r cymunedau y maent yn byw ac yn gweithio ynddynt.