<p>Dinas Ranbarth Bae Abertawe</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 1 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:39, 1 Mawrth 2017

Rwyf innau ac Aelodau eraill, mae’n siŵr, yn croesawu datganiad y bore yma gan y Llywodraeth fod cefnogaeth i’r Egin fel rhan o gynnig dinas-ranbarth Abertawe, ac rwyf yn edrych ymlaen yn awr at bawb yn cydweithio i sicrhau bod Yr Egin yn llwyddiant a bod S4C yn symud yn llwyddiannus i dref Caerfyrddin. Yn anffodus, nid oedd datganiad y bore yma yn sôn am faint o arian y mae’r Llywodraeth yn ei ddodi yn y cynllun, ond mae adroddiadau yn y wasg yn sôn am £6 miliwn—£3 miliwn gan y Llywodraeth a £3 miliwn i ddod gan gynllun dinas-ranbarth bae Abertawe fel y cyfryw. A wnewch chi, Ysgrifennydd Cabinet, gadarnhau’r symiau hynny? Ac a wnaiff ef hefyd gadarnhau o ba ffynonellau ariannol yn y Llywodraeth y mae’r £3 miliwn tuag at Yr Egin yn dod?