<p>Ymwelwyr â Gorllewin De Cymru</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 1 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:41, 1 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Cafodd Cymru ddwy flynedd well nag erioed o’r blaen yn 2014 a 2015, ac yna eto yn 2016, gyda niferoedd ymwelwyr yn croesi’r 10 miliwn am y tro cyntaf yn ôl yn 2014 ac yn tyfu eto gyda gwariant uwch nag erioed gan ymwelwyr a oedd yn aros dros nos yn 2015. Mae Gorllewin De Cymru wedi cyfrannu’n sylweddol at y twf hwnnw, gyda’i amrediad eang o gynigion treftadaeth a thirweddau hardd ac ardaloedd arfordirol.