Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 1 Mawrth 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, pa ystyriaeth a roesoch i dwf posibl y diwydiant gweithgynhyrchu pren yng ngogledd Cymru? Fe fyddwch yn gwybod bod rhannau sylweddol o ogledd Cymru wedi’u gorchuddio â choedwigaeth, ond lleisiwyd pryderon sylweddol gan bobl sy’n ymwneud â’r diwydiant gweithgynhyrchu pren ynglŷn â phrinder pren o Gymru yn y farchnad ar hyn o bryd, ac mae hynny, a bod yn onest, yn mygu’r diwydiant penodol hwn a photensial y diwydiant i dyfu ac i bobl ddod i mewn i’r diwydiant a buddsoddi mewn safleoedd gweithgynhyrchu pren newydd. Mae Clifford Jones Timber yn Rhuthun yn fy etholaeth, a Blazer’s Fuels Cyf, er enghraifft, yn ddau fusnes sydd â chyfle i ehangu’n sylweddol pe bai modd iddynt gael adnodd pren dibynadwy. Mae hyn yn destun pryder, ac rwy’n meddwl tybed beth rydych yn ei wneud yn economaidd i hyrwyddo’r diwydiant penodol hwn yng Nghymru.