Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 1 Mawrth 2017.
Rwy’n credu bod hwnnw’n asesiad annheg sydd, mewn gwirionedd, yn dangos diffyg hyder ac os caf ddweud, diffyg balchder yn economi Cymru. Y ffaith amdani yw bod gwerth ychwanegol gros ardal Mersi a’r Ddyfrdwy, gogledd-ddwyrain Cymru, ac ardaloedd awdurdodau lleol Swydd Gaer a’r Wirral, oddeutu 50 y cant o werth ychwanegol gros Cymru gyfan. Rhyngddynt, maent yn rymoedd economaidd enfawr, a dylent hefyd—y partneriaid yng Nghymru a Lloegr—fod wrth y llyw gydag agenda Pwerdy Gogledd Lloegr. Nid wyf am weld Cymru yn sedd y teithiwr yn hyn o beth; dymunaf weld Cymru’n gyrru menter Pwerdy Gogledd Lloegr, ac oherwydd hynny, mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod y rhanbarth cyfan wedi’i gysylltu’n briodol ac yn llawn. Am y rheswm hwnnw yn ei dro, rwy’n edrych ar ddatblygu trydydd croesiad dros afon Menai ac ar wella’r seilwaith porthladd er mwyn i ni allu cael mynediad at ffyniant economaidd sy’n arwain o Gaergybi yr holl ffordd drwy Loegr, ond sydd hefyd yn cysylltu, yn hollbwysig, ag economi Iwerddon.