Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 1 Mawrth 2017.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Nid wyf yn hollol siŵr a ydym wedi bod yn darllen yr un adroddiad, ac yn amlwg, edrychais ar yr adroddiad o safbwynt yr ardal rwy’n ei chynrychioli a Hywel Dda yn benodol, lle y mae’n dweud bod problem go iawn gyda sicrhau mynediad at wasanaethau orthodontig. Cefais gadarnhad yr wythnos hon gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain hefyd fod rhestrau aros yn Hywel Dda ar gyfer plant rhwng naw a 17 oed ar hyn o bryd yn dair blynedd a phedwar mis, a hynny yn erbyn y targed o chwe mis. Felly, rhaid i mi ofyn, o ystyried yr adroddiad, nad yw’n cynnwys unrhyw ganlyniadau a thargedau pendant, beth y mae’r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod yr etholwyr rwy’n eu cynrychioli yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda—yn enwedig pobl ifanc yn fy etholaeth—yn gallu cael mynediad at driniaeth orthodontig o fewn cyfnod rhesymol o amser, gan gofio bod hyn yn effeithio ar eu haddysg a’u magwraeth?