<p>Gwasanaethau Orthodontig</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 1 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 2:58, 1 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n ategu sylwadau’r Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn gryf, a gallaf dynnu sylw at ddigon o enghreifftiau yn fy etholaeth fy hun o gleifion yn gorfod mynd yn breifat a gorfod teithio ymhellach i gael triniaeth orthodontig. Felly, yn yr amgylchiadau hyn, pa gamau ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fonitro effeithiolrwydd y berthynas waith rhwng practisau orthodontig a Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda o ran rheoli’r ddarpariaeth orthodontig leol?