Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 1 Mawrth 2017.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe wyddoch fy mod wedi crybwyll amseroedd aros orthopedig ar gyfer llawdriniaethau clun yn benodol wrth y Prif Weinidog yn ystod y cwestiynau i’r Prif Weinidog yn ddiweddar, ac wedi cyfeirio at y ffaith fod yr amser aros arferol ar hyn o bryd yn Ysbyty Glan Clwyd yn 112 wythnos ar gyfer llawdriniaethau o’r fath, er gwaethaf targed 26 wythnos Llywodraeth Cymru. Ar y pryd, ymatebodd y Prif Weinidog yn chwerthinllyd drwy ddweud bod llawfeddyg wedi’i benodi yng Nglan Clwyd—llawfeddyg locwm—er mwyn lleihau amseroedd aros yn yr ardal. Rwy’n falch eich bod yn cydnabod nad yw hynny’n mynd i ddatrys problem amseroedd aros i fy etholwyr. A gaf fi ofyn i chi, o ystyried bod y bwrdd iechyd ar hyn o bryd yn destun mesurau arbennig, faint o gyfrifoldeb rydych chi, fel Llywodraeth Cymru, yn ei dderbyn am ymestyn yr amseroedd aros hyn dros y ddwy flynedd ddiwethaf?