Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 1 Mawrth 2017.
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae pob gwasanaeth mamolaeth yng Nghymru yn gweithio ar y cyd gyda gwasanaethau ffisiotherapi ac ymataliaeth arbenigol. Mae’r gwasanaethau hyn yn darparu asesiadau ac yn nodi problemau ymataliaeth gan gyfeirio at wasanaethau ymataliaeth arbenigol ar gyfer triniaeth a chynllunio gofal unigol.