Part of the debate – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 1 Mawrth 2017.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wrth i ni ddathlu ein diwrnod cenedlaethol, Dydd Gŵyl Dewi, mae’n gyfle delfrydol i mi i siarad ar ran y pwyllgor i amlinellu ein hymchwiliad cyfredol ar daith ddatganoli Cymru. Wrth edrych yn ôl, byddwn hefyd yn edrych ar sut y gall y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru, yn awr ac yn y dyfodol, weithio gyda chymheiriaid ar draws y DU i wella bywydau dinasyddion ymhellach ar draws ein gwlad.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dal i fod yn sefydliad democrataidd ifanc iawn. Mae’n llai na dau ddegawd oed, ac eto mae wedi ymsefydlu’n gadarn yn rhan o fywyd dinesig a chyfansoddiadol Cymru; mae fel pe bai bob amser wedi bod yno i genedlaethau newydd o bobl ifanc. Eto i gyd, proses yn unig yw’r broses ddatganoli. Yn aml, soniwyd am ddatganoli fel taith, nid cyrchfan. I rai mae hynny’n bryder, ac i eraill mae’n gyfle. Ond beth bynnag yw eich safbwynt, mae’n sicr yn realiti. Gan gynnwys y Ddeddf Seneddol a sefydlodd Lywodraeth gyntaf Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, bellach cafwyd pump—do, pump—darn sylweddol o ddeddfwriaeth o San Steffan sydd wedi ein helpu ar y daith. Mae pob un, i raddau amrywiol, wedi bod yn ddadleuol neu’n heriol. Mae pob un wedi mynd â ni gam ymlaen, er y gellid dadlau bod yna gam achlysurol wysg ein hochr neu am yn ôl wedi bod hefyd.
Yn y cyfamser, gyda mwy a mwy o bwerau mewn sawl maes, rydym wedi gwneud ein deddfau ein hunain mewn meysydd sydd wedi’u datganoli, gan adeiladu corff newydd o ddeddfwriaeth ‘a wnaed yng Nghymru’. Gwyddom fod llawer o ddarnau garw wedi bod ar y ffordd ar y daith hon, a’r darnau garw hynny’n deillio weithiau o drafodaethau anodd—yn wleidyddol ac o ran polisi—rhwng adrannau Whitehall a Llywodraeth Cymru ar y pwerau diweddaraf i’w trosglwyddo. Neu mae’n bosibl mai materion adrannol o un wythnos i’r llall yn ymwneud â pholisïau gwahanol ar yr economi, iechyd neu addysg ac yn y blaen yw’r darnau garw hynny. Felly mae ein pwyllgor wedi penderfynu ystyried y daith hyd yn hyn, darganfod beth sydd wedi gweithio’n dda, a beth sydd wedi bod yn llai effeithiol. Mae ein bwriad yn driphlyg: cynhyrchu egwyddorion arfer gorau ar gyfer gwaith rhyngsefydliadol gogyfer â deddfwriaeth gyfansoddiadol; ystyried ac adeiladu ar waith deddfwrfeydd eraill ar weithio rhyngsefydliadol fel y mae’n ymwneud â meysydd polisi ehangach; ac yn drydydd, ceisio, sefydlu a hyrwyddo cyfleoedd i weithio’n rhyngseneddol, gan gynnwys hyrwyddo ymgysylltiad â dinasyddion.
Bydd ein profiad diweddar o graffu ar yr hyn sydd bellach wedi dod yn Ddeddf Cymru 2017 yn helpu i lywio ein gwaith, ac yn ein helpu i nodi sut y gellir datblygu a gwella’r berthynas rhyngom ag eraill. Fel pwyllgor, rydym eisoes wedi ceisio dysgu gwersi: rydym wedi cydnabod y manteision o weithio ar y cyd â Phwyllgor Cyfansoddiadol Tŷ’r Arglwyddi i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU, lle na fyddai pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn gweithio ar ei ben ei hun, yn gallu gwneud hynny o bosibl. Mae hyn wedi dangos yr angen am gysylltiadau rhyngsefydliadol effeithiol, ac mae’n un o’r ysgogiadau i edrych yn fanylach ar y materion hyn ar lefel seneddol.
Mae ein hymchwiliad wedi’i rannu’n ddwy elfen. Bydd y gyntaf yn edrych ar sut y mae cysylltiadau rhynglywodraethol a rhyngseneddol wedi esblygu ac wedi effeithio ar ddatblygiad y setliad datganoli. Ac i’n helpu i edrych ar y daith a deithiwyd gennym, rydym wedi sicrhau casgliad trawiadol, yn fy marn i, o’r rhai a fu ar flaen y gad yn ffurfio a gweithio gyda datganoli dros y 18 mlynedd ddiwethaf. Rwy’n meddwl y byddant yn ein helpu i ddeall pam y mae datganoli weithiau’n rhedeg yn esmwyth iawn, ac ar adegau eraill yn wynebu rhwystrau mawr—yn gyhoeddus iawn weithiau. Byddwn yn edrych ar y bobl a’r personoliaethau, byddwn, ond hefyd y mecanweithiau sydd i fod i roi olew yn y peiriant a chadw’r berthynas rhwng y sefydliadau hyn i redeg yn llyfn. Yn wir, rydym eisoes wedi cymryd tystiolaeth gan yr Arglwydd Murphy. Siaradodd am bwysigrwydd meithrin cysylltiadau personol a’r her o newid meddylfryd yn Whitehall, lle y mae angen i hynny ddigwydd, ymhlith pethau eraill.
Fodd bynnag, mae’n ymwneud â mwy na myfyrio ar y gorffennol. Mae’n rhaid i ni hefyd gael dealltwriaeth lawn o sut y mae’r strwythurau a’r polisïau presennol yn gweithredu’n ymarferol. I’r perwyl hwn, bydd yr ail elfen yn archwilio natur y gydberthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, sut y mae’r gydberthynas hon yn gweithredu a sut y gellir ei gwella. Bydd yn edrych ar gyfleoedd gwell i wella’r modd y dysgir am bolisi rhwng Llywodraethau a Seneddau; ar arferion gorau mewn cysylltiadau rhyngsefydliadol o bob rhan o’r DU y gellid eu trosglwyddo i’r cyd-destun Cymreig; ac ar natur y berthynas rhwng deddfwrfeydd Cymru a’r DU a nodi cyfleoedd ar gyfer gwaith rhyngseneddol effeithiol.
Nid ein bwriad yw cynhyrchu adroddiad arall i orwedd ar silff yn hel llwch. Mae’r pwyllgor yn awyddus i gael effaith wirioneddol ac uniongyrchol ar weithio rhyngsefydliadol drwy gynhyrchu egwyddorion arferion gorau ac arwain o’r tu blaen wrth adeiladu’r gydberthynas hon. Mae gwledydd eraill yn rheoli’r berthynas yn llwyddiannus a chredwn fod yna ddigon y gallwn ei ddysgu a’i addasu o arferion da mewn mannau eraill.
Mae Aelodau’r Cynulliad yn gweld effaith gweithio rhyngsefydliadol, cadarnhaol a negyddol, bob dydd mewn perthynas â materion trawsffiniol lle y gall llinellau datganoli fod yn aneglur weithiau. Dyna pam ei bod mor bwysig ymgysylltu â’r cyhoedd i ddeall yr effaith y gall y cysylltiadau hyn ei chael ar ein dinasyddion. I’r perwyl hwn rydym wedi treialu panel dinasyddion bach—am y tro cyntaf yn y Cynulliad—i helpu i ddeall canfyddiadau trawstoriad o’r cyhoedd. Byddwn hefyd yn gweithio’n galed i siarad â sefydliadau nad ydynt fel arfer yn ymgysylltu â’r Cynulliad ac i ddarganfod pam nad yw hynny’n digwydd.
Mae pwysigrwydd y gwaith hwn hefyd yn cael ei ddwysáu gan oblygiadau cyfansoddiadol y setliad datganoli yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n hanfodol fod y gwaith rhyngsefydliadol sydd ei angen i hwyluso trosglwyddiad llyfn ar draws y gwledydd sy’n rhan o’r DU yn addas i’r diben. Wrth wneud hynny mae angen i ni sicrhau nad ydym yn colli pwerau a chymhwysedd sydd ar hyn o bryd yng Nghymru wrth i ni adael yr UE. Rydym yn gobeithio y bydd ein hymchwiliad yn cyfrannu at sicrhau nad yw hynny’n digwydd.
Mae datganoli—symud pŵer yn nes at y bobl rydym yn eu gwasanaethu—yma i aros. Fel y cyfryw, i Gymru a’r gwledydd a’r rhanbarthau datganoledig, ond hefyd er lles y Deyrnas Unedig, mae angen i ni wneud yn siŵr ei fod yn gweithio’n effeithiol i bob un o’n dinasyddion. Bydd yr ymchwiliad hwn yn mynd at wraidd y cysylltiadau rhyngsefydliadol hynny, ac yn dangos y ffordd ymlaen ar gyfer gweithio’n well yn y dyfodol.
Bydd yr ymchwiliad hwn yn mynd â llawer o’n hamser yn y misoedd i ddod. Ochr yn ochr â hynny, rydym hefyd yn bwriadu edrych ar godeiddio cyfraith Cymru. Fel cam cyntaf, edrychwn ymlaen at groesawu’r Cwnsler Cyffredinol i bwyllgor yn ddiweddarach yn y gwanwyn i drafod ei syniadau yn y maes hwn a phenderfynu sut i symud y gwaith hwn yn ei flaen. Ac wrth gwrs, byddwn hefyd yn cyflawni ein rôl greiddiol: craffu ar yr holl is-ddeddfwriaeth a wnaed gan Lywodraeth Cymru ac unrhyw Fil a gyflwynwyd i’r Cynulliad Cenedlaethol. Ac yn y rôl honno byddwn yn parhau i edrych ar ansawdd y ddeddfwriaeth, yn enwedig yn erbyn casgliadau ac argymhellion adroddiad y pwyllgor a’n rhagflaenodd, ‘Deddfu yng Nghymru’.
Byddwn yn parhau i ofyn: a ydym yn gwneud cyfraith dda a sut y gellir ei gwella? Yn rhan o hynny, byddwn yn edrych ar gydbwysedd y ddeddfwriaeth a faint o bolisi sy’n cael ei adael i’w gyflwyno gan is-ddeddfwriaeth, na ellir ei newid wrth gwrs, ac sydd felly’n destun llai o graffu. Byddwn hefyd yn monitro defnydd a graddau pwerau Harri’r VIII a geisir gan Weinidogion, y defnydd o ddarpariaethau canlyniadol ac yn gysylltiedig â’r ddau, y gweithdrefnau sydd ynghlwm wrth y broses o lunio’r holl is-ddeddfwriaeth.
Felly, ar y diwrnod hwn cofiwn am Ddewi Sant, a ddywedodd wrthym fod y pethau bychain yn bwysig. Bydd ein pwyllgor yn parhau i ofalu am y pethau bach ond pwysig yn ein cyfraith a’n cyfansoddiad, a thrwy wneud hynny, efallai y cawn gipolwg hefyd ar y pethau mwy sy’n ein hwynebu fel sefydliad democrataidd ac fel cenedl.