Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 1 Mawrth 2017.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser gennyf gyflwyno’r cynnig yma ar 1 Mawrth, Dydd Gŵyl Dewi. Mae’n bleser dymuno Gŵyl Ddewi hapus i bawb yma yn y Siambr a thu hwnt.
Mi allai rhai ofyn pa rôl sydd i ddyddiau nawddsant yn yr unfed ganrif ar hugain, ond ar draws y byd mae pobloedd a gwledydd yn defnyddio’r dyddiau yma i ddathlu a hybu eu cenedligrwydd, a hir y parhaed hynny. Mae’n gyfle i ddathlu llwyddiannau a hefyd i fyfyrio, rydw i’n meddwl, ar gyflwr cenedl. Heddiw, rydym ni’n defnyddio ein dadl Gŵyl Ddewi i edrych ar ein gorffennol, ein presennol a’n dyfodol, ac yn arbennig i roi sylw i feysydd yr economi, iechyd ac addysg.
Mae angen gonestrwydd, rwy’n meddwl, am sut mae pethau heddiw. Wrth gwrs, nid edrych yn ôl ydy’r bwriad efo rhyw ysbryd o ‘nostalgia’ am sut roedd bywyd i lawer o ddinasyddion Cymru dros y cwpwl o ganrifoedd diwethaf. Ac i bellhau ein hun oddi wrth slogan gwleidyddol arall diweddar, nid ‘making Wales great again’ ydy ein thema ni heddiw. Yn hytrach, edrych yr ydym ni ar lle rydym ni arni fel cenedl, gan ddatgan yn glir ein bod ni’n credu y gall Cymru wneud yn well.
Mae gan Gymru hanes balch iawn. Efallai bod yna amrywiaeth barn ymhlith Aelodau am arwyddocâd gwahanol elfennau o’n hanes ni, ond yn sicr, fel cenedl fodern mi allwn ni droi at benodau o’n hanes ni er mwyn ysbrydoli ein dyfodol. Ar Ddydd Gŵyl Dewi, mi allwn ni ddweud wrth bobl Cymru: dyma ydy stori ein cenedl ni. Mi wnaeth y cenedlaethau a aeth o’n blaenau ni arloesi; mi wnaethon nhw ddyfeisio pethau, creu pethau—ymateb i sefyllfa Cymru a’r byd fel yr oedd o ar y pryd. Ym maes iechyd, rydym ni’n sôn am Gymro yn creu’r NHS, ac yn creu hynny, wrth gwrs, o fewn cyd-destun Prydeinig, yn y blynyddoedd ar ôl yr ail ryfel byd, yn yr un modd ag y cafodd y chwyldro diwydiannol ei feithrin yma yng Nghymru, eto mewn cyd-destun Prydeinig, neu ymerodraethol, hyd yn oed—nid cyd-destunau y clywch chi Blaid Cymru yn eu dathlu a’u clodfori o reidrwydd, ond dyna oedd y cyd-destun.
Mae’r cyd-destun yna wedi newid bellach, wrth gwrs, ac mae’n siŵr y dylwn i ychwanegu ei fod o wedi newid i raddau helaeth, mae’n siŵr, mewn ymateb i’r hen gyd-destunau yna. Rydym ni’n wlad sydd, yn rhannol, yn hunan-lywodraethu bellach, wrth i’n cenedl ni barhau ar ein taith gyfansoddiadol. Mae’r siwrne honno, rwy’n falch o ddweud, yn parhau, ac rwy’n siŵr y buasai Dewi Sant ei hun yn cytuno ei bod hi’n siwrne gyffrous, ac yn siwrne llawn posibiliadau.
Mae ein cynnig ni heddiw yn sôn am ein cyfraniad ni fel cenedl i’r chwyldro diwydiannol. Ni oedd un o’r economïau diwydiannol cyntaf yn y byd. Mi oedd y profiad hwnnw o ddiwydiannu yn un trawmatig i lawer o weithwyr a dinasyddion yn gyffredinol ar y pryd. Mi oedd tlodi, afiechydon a niwed amgylcheddol yn nodweddion amlwg o’r cyfnod, ond yn y pen draw, dyna ddechrau’r llwybr at fywyd mwy ffyniannus. Mi wnaeth o baratoi’r ffordd at arloesedd, at ddatblygiadau technolegol a blaengarwch, yn gymharol o leiaf. Mi wnaeth yr amgylchiadau caled ar y pryd ysgogi brwydrau am hawliau gweithwyr ac am yr hawl i bleidleisio—brwydrau wnaeth greu sylfaeni, i raddau, a wnaeth ein galluogi ni i adeiladu’r ddemocratiaeth sydd gennym ni rŵan, a’r ffaith ein bod ni yma heddiw yn ein Senedd genedlaethol ni.
Mi ddaeth heriau i’r iaith Gymraeg hefyd, wrth reswm, er i Gwynfor Evans nodi nad diwydiannu wnaeth ladd y Gymraeg yn ein hardaloedd diwydiannol; polisi llywodraethau canolog oedd yn gyfrifol am hynny, drwy’r system addysg a chyflwr seicolegol pobl Cymru. Mi nododd Gwynfor bod y Gymraeg wedi mynd o ardaloedd gwledig y de-ddwyrain ymhell cyn y trefi, efo’r iaith yn fyw mewn llefydd fel Merthyr Tudful ac Aberdâr a threfi tebyg ar draws Morgannwg a Gwent am ddegawdau ar ôl y cyfnod diwydiannu.
Heddiw, wrth gwrs, mae’n braf gweld addysg Gymraeg yn tyfu eto yn y llefydd hynny. Mae polisi yn allweddol i yrru’r twf yma. Rydym i gyd yma, gobeithio, yn ei groesawu. Mae yna newid mawr wedi bod mewn seicoleg, y seicoleg y cyfeiriodd Gwynfor ato, er bod dal rhai pobl sy’n dal yn ei chael hi’n anodd ffeindio’r hyder cenedlaethol newydd yna rydym ni i gyd ei angen.
Mi symudaf ymlaen at iechyd ac at addysg. Fel y cafodd y chwyldro diwydiannol ei feithrin yma, fe gafodd y gwasanaeth iechyd gwladol ei eni yma hefyd. Fe wyddom ni sut y cafodd Aneurin Bevan y weledigaeth a’r dewrder i ddatblygu’r NHS—ie, ffigwr amlwg yn hanes y Blaid Lafur, yn y mudiad Llafur, ond un o gewri ein hanes ni fel gwlad o ran datblygiad gofal iechyd. Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn credu y gallai’r weledigaeth yna gael ei gwireddu rŵan go iawn drwy ein Cynulliad Cenedlaethol ni a thrwy Lywodraeth Cymru, ond mae’n rhaid i’r weledigaeth yna gan Bevan o’n gorffennol ni barhau i’n hysbrydoli ni rŵan.
Mewn addysg, mae gennym ni hen hanes o gyfraddau uchel o lythrennedd ymhlith y boblogaeth gyffredinol, a rhwydwaith addysg, ganrif a mwy yn ôl, yr oedd Lloegr yn genfigennus ohoni. Yn fwy diweddar, roedd Cymru yn arloeswr mewn addysg uwchradd, ac yma roedd yr ysgol gyfun gyntaf. Rwy’n falch iawn mai yn fy etholaeth i yr oedd honno, sef Ysgol Uwchradd Caergybi. Yn addas iawn, fe gymeraf i’r cyfle yma i longyfarch yr ysgol honno, ac ysgolion eraill y dref a phawb arall a fu’n rhan o’r digwyddiad, am yr orymdaith Gŵyl Ddewi gyntaf i gael ei chynnal yn y dref. Mae’n chwith iawn gen i fy mod i’n methu â bod yna heddiw.