Part of the debate – Senedd Cymru am 5:03 pm ar 1 Mawrth 2017.
Wel, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r cynnig hwn ar gyfer dadl yn y Siambr heddiw a dymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’n rhoi cyfle i ni siarad am ein perfformiad ar draws tri maes allweddol yr economi, addysg ac iechyd, a chroesawaf y cyfle hwnnw. Rwyf hefyd yn credu ei fod yn addas. Fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth yn ei sylwadau agoriadol, mae’n ymwneud ag edrych ar ein sefyllfa heddiw, ac mae hynny’n briodol ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Ond o edrych yn ôl dros y blynyddoedd diwethaf yn erbyn cefndir y dirwasgiad a’r cyllidebau caledi a orfodwyd arnom gan Lywodraeth y DU, mae’n amlwg fod economi Cymru wedi tyfu. Ceir yn agos at y nifer uchaf erioed o bobl mewn gwaith, ac mae’r gyfradd gyflogaeth wedi cynyddu mwy na chyfartaledd y DU dros y 12 mis diwethaf. Hefyd mae’r gyfradd ddiweithdra wedi gostwng mwy yng Nghymru na chyfartaledd y DU dros yr un cyfnod. Y llynedd, helpodd y Llywodraeth hon yng Nghymru i greu a diogelu 37,500 o swyddi drwy bartneriaethau deallus ac effeithiol gyda busnesau yng Nghymru. Rydym hefyd wedi gweld cynnydd gwirioneddol o ran gwella addysg. Dangosodd y canlyniadau TGAU cyffredinol ar gyfer 2016 berfformiad cryf arall, gyda dwy ran o dair o’n dysgwyr yn cyflawni o leiaf A* i C, gyda chynnydd yn y graddau uchaf.
O ran y gwasanaeth iechyd, rydym yn cydnabod bod rhai amseroedd aros yn rhy hir, ond mae amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth bellach 30 y cant yn is na’r uchafbwynt ym mis Awst 2015, ac mae amseroedd aros diagnostig 63 y cant yn is na’r uchafbwynt ym mis Ionawr 2014. Rydym yn disgwyl gweld gostyngiadau pellach cyn diwedd y mis hwn. Rydym yn derbyn bod lle i fwy o welliant bob amser, ond rydym yn gwneud cynnydd sylweddol yn y meysydd hyn.
Wrth gynnig gwelliant y Llywodraeth, rwy’n falch o ddarparu trosolwg mwy cynhwysfawr efallai o sefyllfa Cymru. Mae’r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru wedi gostwng i 4.4 y cant, yn is na chyfartaledd y DU. Dangosodd dangosydd ansawdd gofal iechyd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a gyhoeddwyd yn ddiweddar fod Cymru yn perfformio ar lefel debyg neu well na gwledydd eraill yn y DU yn y rhan fwyaf o ddangosyddion. Mae canlyniadau arholiadau TGAU 2015-16 ar gyfer Cymru yn dangos bod y prif fesur perfformiad wedi cynyddu bob blwyddyn ers dechrau cadw cofnodion yn 2006-07, ac mae’r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’u cyd-ddisgyblion yn cau. Ddoe, wrth gwrs, cyhoeddodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ei asesiad cyflym o addysg yng Nghymru, a buom yn trafod yr adroddiad hwn yn y Siambr—y datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet. Ond rhoddodd y Sefydliad dystiolaeth annibynnol i ni ar ble rydym wedi gwella, ac maent yn cyfeirio at y cynnydd a wnaed ar gefnogi dysgu proffesiynol athrawon, ar gynyddu cydweithrediad rhwng ysgolion, ar resymoli grantiau ysgol, ar ddatblygu’r system gategoreiddio ysgolion ar lefel genedlaethol, ac ar y camau a gymerwyd i ddatblygu cwricwlwm newydd sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Siaradodd Llyr Gruffydd am y tirnodau hanesyddol yn hanes addysg yng Nghymru, ac ydy, mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn nodi meysydd lle y mae angen i ni gryfhau ymhellach. Ond mae’r dadansoddiad annibynnol hwn yn dangos ein bod ar y trywydd iawn. Rydym wedi gosod y sylfeini ar gyfer system hunanwella a fydd yn mynd o nerth i nerth.
Wrth ymateb i rai o’r pwyntiau eraill yn y ddadl hon, mae dull Llywodraeth Cymru o gyflawni ein hymrwymiadau yng Nghymru yn allweddol, felly mae ein rhaglen lywodraethu, ‘Symud Cymru Ymlaen’, yn dangos sut rydym yn gyrru gwelliant yn economi Cymru a gwasanaethau cyhoeddus, a’n nod yw sicrhau Cymru sy’n ffyniannus a diogel, yn iach ac yn weithgar, yn uchelgeisiol ac yn dysgu, yn unedig ac yn gysylltiedig. Ond er mwyn cyflawni hyn, mae’n rhaid i ni nodi ble y mae gennym y dulliau i ymyrryd—ble y gall Llywodraeth Cymru ymyrryd i sicrhau cymaint o effaith â phosibl, a sut y bydd ein hymrwymiadau allweddol yn cyfrannu. Rydym wedi nodi’r meysydd hyn, a byddwn yn canolbwyntio arnynt, gan ein galluogi i gael yr effaith fwyaf. Mesurau uchelgeisiol, ond wedi’u hanelu tuag at—. Nod y mesurau hyn yw gwneud gwahaniaeth i bawb ar bob cam o’u bywydau.
Byddwn yn defnyddio’r cyfle a roddwyd i ni gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i weithio mewn ffordd wahanol, i ddatblygu atebion arloesol i’r heriau sy’n ein hwynebu, er mwyn ein helpu i wneud y gorau o’n heffaith ar yr adegau ansicr hyn—math newydd o gynhyrchiant, fel y dywedodd Jeremy Miles, yn seiliedig ar fuddsoddiad cynaliadwy. Rydym yn cydnabod potensial yr economi las a’r economi werdd. Rydym wedi ymrwymo i gynorthwyo mentrau newydd a mentrau sy’n bodoli eisoes yng Nghymru er mwyn manteisio ar ddiwydiant morol mawr a seilwaith ynni—unwaith eto, fel y nododd Jeremy Miles, a Simon Thomas yn wir, cyfleoedd unigryw sydd gennym yng Nghymru i’n symud ymlaen—rwy’n credu y sonnir amdano fel chwyldro diwydiannol nesaf Cymru—megis y morlyn llanw arfaethedig, ac onid yw’n wych pan fyddwn i gyd yn cytuno, fel y gwnaethom mewn dadl ychydig wythnosau yn ôl, ac anfon neges mor gryf at Lywodraeth y DU ein bod am fynd i’r afael â’r her honno yma yng Nghymru?
Mae Simon Thomas yn iawn: mae’r sector ynni yn sector allweddol ar gyfer economi Cymru wrth inni symud ymlaen. Mae’n seiliedig ar ein hadnoddau naturiol, y traddodiad hir o gynhyrchu, ac wrth gwrs, y biblinell ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol. Mae hyn yn cysylltu’n uniongyrchol ag addysg a sgiliau a’r rôl ganolog y maent yn eu chwarae yn gwella economi a chynhyrchiant Cymru. Rhaid i’n system addysg roi’r sgiliau, y wybodaeth a’r priodoleddau sydd eu hangen ar ddysgwyr ar gyfer y byd modern i’n galluogi i gystadlu ac i’n pobl ifanc lwyddo er eu budd eu hunain ac er lles Cymru.
Dyma pam yr ydym yn gwneud y newidiadau hyn i’r system addysg, wedi’i hanelu at wireddu cwricwlwm o’r safon orau gyda’r nod o arfogi ein plant a’n pobl ifanc i ffynnu yng nghanol heriau a chyfleoedd yr unfed ganrif ar hugain.
Yn olaf, mewn perthynas â’n gwasanaeth iechyd gwladol annwyl wrth gwrs, fe ddylem ac fe fyddwn yn disgwyl i fyrddau iechyd barhau i wneud gwelliannau i ofal cleifion a mynediad at driniaeth yn ystod 2017-18. Erbyn diwedd mis Mawrth 2018 rydym yn disgwyl na fydd neb yn aros mwy na 36 wythnos yn y mwyafrif o arbenigeddau. Rwy’n siŵr y byddwch i gyd wedi croesawu’r cyhoeddiad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet am y £95 miliwn ychwanegol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol—mae hwnnw’n gwbl hanfodol fel y dywedodd Dai Lloyd—o ran dangos, unwaith eto, beth yw’r blaenoriaethau i’r Llywodraeth hon.
Felly, Lywydd, fel y dywedais, rydym yn croesawu’r ddadl hon. Mae’n rhoi cyfle i bwyso a mesur, a hefyd i groesawu craffu adeiladol ac i fwydo i mewn i’r cyfeiriad teithio. Mae angen inni sicrhau ein bod yn cyflawni ein hymrwymiadau, ein bod yn galluogi pobl i fyw bywydau iach a chyflawn, ac yn parhau i gefnogi ein heconomi drwy fuddsoddi mewn sgiliau a seilwaith. Ond fel Llywodraeth Lafur Cymru, mae gennym nod ychwanegol, sef mynd i’r afael ag anghydraddoldebau, sydd yr un mor ddrwg i’n hiechyd ag y maent i’r economi, yn erbyn cefndir o bolisïau caledi parhaus Llywodraeth y DU.
Rhaid i mi wneud un sylw mewn ymateb i Neil Hamilton. Nawr, mae Neil yn dweud ei fod yn cefnogi’r cynnig hwn, ond rwy’n teimlo bod angen i mi ei atgoffa eto, o ran ei sylwadau difenwol a slic braidd, am ein safle mewn perthynas â’r effaith a gawsom ar yr economi. Mae’r farchnad swyddi yng Nghymru wedi parhau i berfformio’n well na bron bob rhan o’r DU dros y flwyddyn ddiwethaf. Newyddion da i Gymru. Mae cyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu’n gyflymach nag yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Nid wyf yn gwybod ble y buoch dros y cyfnod hwn mewn perthynas â’r ffigurau hyn, Neil Hamilton. Mae diweithdra—[Torri ar draws.]