Part of the debate – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 1 Mawrth 2017.
Ar bwnc rhethreg wag, a wnaiff dderbyn y bydd pobl yn y Siambr yn ystyried sail y ddadl a’r cynnig a gyflwynwyd gan UKIP yn hollol anhygoel, o ystyried bod eu harweinydd yn y Cynulliad yma wedi treulio gyrfa wleidyddol gyfan yn y Senedd yn beirniadu ac yn galw am ddadreoleiddio amodau gwaith? Rwy’n ofni y bydd y rhan fwyaf ohonom yn ystyried yr hyn yr ydych yn ei ddweud yn hollol anhygoel.