Part of the debate – Senedd Cymru am 5:38 pm ar 1 Mawrth 2017.
Nid oes gennyf ond 17 eiliad, yn anffodus, Darren. Dylem gael uchelgais i greu Cymru ag economi sgiliau uwch a chyflogau uchel, a dylai ddod yn wlad cyflog byw. Dyna sydd yn rhaid i ni ei wneud. Mae ‘Ni allwn ei fforddio’ a ‘Bydd yn arwain at golli swyddi’ wedi bod yn ddadleuon yn erbyn pob newid blaengar o ddiddymu caethwasiaeth i’r isafswm cyflog.