Part of the debate – Senedd Cymru am 6:03 pm ar 1 Mawrth 2017.
Pe bai’r Aelod yn gadael i mi gyrraedd diwedd fy araith, efallai y caiff wybod.
Rydym eisoes wedi arwain y ffordd ar draws y DU drwy gyflwyno polisi caffael sy’n cynorthwyo’r sector cyhoeddus yng Nghymru i fynd i’r afael ag arferion cyflogaeth annerbyniol fel cosbrestru a’r defnydd o asiantaethau ymbarél, fel yr wyf newydd ei ddweud.
Gan weithio gyda phartneriaid ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru, rydym yn cwblhau cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi, y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn ei lansio yng nghyngor partneriaeth y gweithlu yr wythnos nesaf. Bydd hyn yn sicrhau bod pob sefydliad yn y sector cyhoeddus yn cymryd camau i weithio gyda’u cyflenwyr i gael gwared ar arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac anfoesol mewn contractau sector cyhoeddus, ac i sicrhau bod pob gweithiwr ar bob cam o’r gadwyn gyflenwi yn cael eu trin yn deg.
Ym mis Tachwedd y llynedd, cyhoeddasom ganllawiau i’r sector cyhoeddus ar y defnydd priodol o gontractau heb oriau gwarantedig. Cafodd ei ddatblygu a’i gytuno drwy waith cyngor partneriaeth y gweithlu a Chomisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus. Roedd y canllawiau a’r egwyddorion yn nodi disgwyliadau clir mewn perthynas ag arferion y dylai pob cyflogwr yn y sector cyhoeddus eu mabwysiadu er mwyn sicrhau nad yw trefniadau heb oriau gwarantedig ond yn cael eu defnyddio mewn amgylchiadau wedi’u diffinio’n glir ac yn fanwl mewn ffyrdd sydd o fudd i bobl yn ogystal â sefydliadau. Diolch i Julie Morgan am dynnu sylw at broblem bosibl gyda’u gweithrediad yn hyn o beth, a byddaf yn sicr yn mynd ar drywydd hynny.
Dylai contractau o’r fath sicrhau bod pobl yn gallu derbyn neu wrthod gwaith heb unrhyw anfantais iddynt hwy. Dylent gael mynediad at yr un cyflog a datblygiad â chyflogeion amser llawn ac i broses sefydlu a hyfforddiant, yn ogystal â chyfle i wneud cais am swyddi gwag mewnol wrth iddynt godi. Mae ein canllawiau’n nodi’n glir na ddylai’r defnydd o gontractau o’r fath fod yn benagored. Rhaid i staff allu gofyn i’w trefniadau gwaith gael eu hadolygu os ydynt wedi bod yn gweithio oriau rheolaidd dros gyfnod parhaus o amser. Byddwn yn cadw’r mesurau hyn dan arolwg er mwyn gwneud yn siŵr fod ein dull o weithredu yn sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng hyblygrwydd a diogelu gwasanaethau.
Nodaf y cynnig gan UKIP heddiw a’r datganiadau cryf a wnaed ganddynt yn condemnio’r effaith y gall contractau dim oriau ei chael ar unigolion a’u teuluoedd. Nodaf hefyd y modd gresynus y maent yn cysylltu hynny â’r hyn a elwir ganddynt yn ‘fewnfudo torfol heb ei reoli’. Mewn gwirionedd, mae mewnfudo yng Nghymru ychydig o dan 3 y cant ar hyn o bryd, ac yn bersonol, rwy’n gwerthfawrogi’n fawr iawn y cyfraniad a wneir gan yr holl bobl sydd wedi dod i Gymru i fyw a gwneud bywyd iddynt eu hunain, gan gynnwys, er enghraifft, yr oncolegydd a achubodd fy mywyd yn ystod y Cynulliad diwethaf, dyn rwy’n hynod ddiolchgar iddo. Rwy’n falch iawn ei fod wedi dod yma i Gymru i fyw a gweithio.
Rwy’n credu ei bod yn bwysig nodi mai dyma’r un blaid a bleidleisiodd yn erbyn mesurau i ymladd arferion cyflogaeth amheus yn Senedd Ewrop ac mai hon yw’r blaid sydd wedi ymgyrchu’n frwd yn erbyn aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd a sicrhaodd lawer o’r hawliau a’r mesurau diogelu gweithwyr mwyaf hanfodol. Er gwaethaf y cynnig heddiw, hoffwn atgoffa pawb yn y Siambr hon ac ar draws Cymru yn bendant iawn nad dyma’r safbwynt a fu ganddynt yn ddiweddar.
Rydym yn cytuno â Phlaid Cymru fod yna broblem benodol iawn ym maes gofal cymdeithasol. Roedd gwelliant Plaid Cymru y llynedd i Fil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) yn ceisio rhoi gwaharddiad llwyr ar ddefnyddio contractau dim oriau wrth ddarparu gwasanaethau a reoleiddir mewn gofal cymdeithasol. Ond mewn gwirionedd, byddai wedi peryglu dyfodol y Bil, gan olygu y byddai Cymru wedi’i hamddifadu o’i ddiwygiadau pwysig. Ac nid yw galluogi heriau diangen yn strategaeth dda i’r Llywodraeth. Rhaid i unrhyw gyfraith sy’n ymwneud â thelerau ac amodau gweithwyr gofal cymdeithasol gynnwys bwriad clir i wella lles cymdeithasol, sy’n golygu bod angen perthynas yn seiliedig ar dystiolaeth rhwng contractau dim oriau ac ansawdd y ddarpariaeth gofal cymdeithasol. Dyna pam y comisiynodd y Llywodraeth ymchwil gan Brifysgol Metropolitan Manceinion ar y mater hwn, gydag ymgynghoriad i ddilyn ar delerau ac amodau cyflogaeth ym maes gofal cymdeithasol. Mae yna angen clir i ysgogi newid ymddygiad i ffwrdd oddi wrth y rhai sy’n ystyried y contractau hyn fel y norm.
Rydym eisoes wedi dweud yn glir y byddwn yn defnyddio rheoliadau o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 i ddylanwadu ar y defnydd o gontractau dim oriau mewn gofal cartref. Bydd y rhain yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gofal cartref gyhoeddi manylion am eu defnydd o gontractau dim oriau yn y cofnodion cyhoeddus blynyddol sy’n ofynnol o dan Ddeddf 2016. Mae ymagwedd o’r fath yn debygol o symbylu dylanwad gan y gweithlu, comisiynwyr, defnyddwyr gwasanaethau a’u teuluoedd, gan ganiatáu’r defnydd o gontractau dim oriau mewn ffyrdd sy’n gyson ag anghenion gweithwyr a chleientiaid yn unig. Fodd bynnag, nid yw gwneud tryloywder yn ofynnol yn gwarantu newid ymddygiad ynddo’i hun, ac mae’n bosibl y bydd rhai darparwyr yn parhau i ddefnyddio contractau dim oriau mewn ffyrdd sy’n andwyol i staff ac ansawdd y gofal.
Ar hyn o bryd rydym yn archwilio’r achos dros reoliadau eraill ar gyfer lleihau’r defnydd o gontractau dim oriau, drwy gyfyngu ar y gyfran o ofal y gellir ei darparu drwy gontractau dim oriau, neu ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr roi dewis i weithwyr a ydynt am gael eu cyflogi ar gontractau dim oriau neu gytundebau oriau penodedig. Rydym yn edrych hefyd ar sut y gallwn ddefnyddio mesurau eraill i helpu i wella telerau ac amodau’r gweithlu, gan gynnwys cynyddu’r rhaniad rhwng amser teithio a galw, ac atgyfnerthu cydymffurfiaeth lwyr â’r isafswm cyflog cenedlaethol, ac mae pob un o’r rhain yn mynd ar drywydd cyfleoedd pellach i sefydlu gofal cartref fel gyrfa hirdymor sy’n ddeniadol, yn cael ei chefnogi ac yn werth chweil i bobl Cymru.
Mae tegwch yn ganolog i Lywodraeth Cymru, ac rydym yn ymrwymedig i adeiladu economi ffyniannus a chytbwys sy’n sicrhau cyfiawnder cymdeithasol a chyfle i holl bobl Cymru. Croesawaf y cyfle i ailadrodd y byddwn fel Llywodraeth yn parhau i weithio’n ddiflino i ddileu arferion cyflogaeth gwael ym mhob rhan o Gymru. Diolch.