Part of the debate – Senedd Cymru am 6:08 pm ar 1 Mawrth 2017.
Diolch, Lywydd. Yn gyntaf oll, rwyf am fynd ar ôl dau bwynt, un gan Julie Morgan a’r llall gan Bethan Jenkins, pan ddywedasant ei bod yn eironig ein bod wedi dod â’r ddadl hon i’r Siambr. Wel, nid yw’n eironig o gwbl. Ni yw’r unig blaid yn y Siambr hon sydd wedi mynd ati’n gyson i geisio diogelu gweithwyr Prydain rhag camfanteisio, ac mae union ffaith y contract dim oriau yn dangos ein bod yn iawn yn yr hyn y ceisiem ei wneud.