Part of the debate – Senedd Cymru am 6:18 pm ar 1 Mawrth 2017.
Mae’n anodd cael ffigur cyfredol cywir o nifer y bobl sy’n gofalu am anwyliaid. Ni fyddai llawer yn diffinio eu hunain fel gofalwyr, dim ond ei ystyried yn rhywbeth y bydd rhywun yn ei wneud. Yng Nghymru, amcangyfrifir bod 400,000 o ofalwyr di-dâl, sef y gyfran uchaf yn y DU. Amcangyfrifir bod 22,000 o ofalwyr yn fy ninas i, sef Casnewydd. Mae llawer o’r bobl hyn yn perthyn i gategori’r ‘genhedlaeth frechdan’, y bobl sy’n gofalu am fwy nag un genhedlaeth—rhieni oedrannus, plant sy’n oedolion ac wyrion—ar adeg yn eu bywydau y mae disgwyl iddynt ddal i fod yn gweithio, neu’n mwynhau eu hymddeoliad. Amcangyfrifir bod gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn darparu 96 y cant o’r holl wasanaethau gofal yn y gymuned, ac amcangyfrifodd Gofalwyr Cymru eu bod yn arbed £8.1 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn. Maent yn weithlu di-dâl sy’n sail i’n GIG a’n system gofal cymdeithasol, ac nid oes amheuaeth na allem wneud hebddynt.
Rwy’n credu ei bod yn ddyletswydd arnom i arwain y ffordd drwy amddiffyn a chefnogi gofalwyr. Mae’n bwysig nodi bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi camau anhygoel ar waith. Yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2015, am y tro cyntaf rhoddir yr un hawliau i ofalwyr â’r rhai y maent yn gofalu amdanynt. Mae hwn yn gyfle gwych i gefnogi ein gofalwyr, ond heddiw rwyf am ganolbwyntio ar bobl hŷn sy’n gofalu, a beth sy’n digwydd ar ôl i’w hamser fel gofalwyr ddod i ben. Yn benodol, sut rydym yn cefnogi ein gofalwyr ar adeg pan fyddant yn teimlo’n ynysig ac fel pe baent wedi colli eu hunaniaeth? Mae angen i ni gydnabod yr effaith y mae gofalu’n ei chael ar iechyd rhywun, eu rhagolygon yn y dyfodol, a phwysigrwydd seibiant. Mae’n rhaid i ni gydnabod yr arbenigedd unigryw sydd gan ofalwyr, a pha mor werthfawr ydynt i’n cymuned a’n cymdeithas, ac yn bwysig, mae angen i ni feddwl sut y gallwn harneisio’r sgiliau hyn, a pharatoi gofalwyr ar gyfer y dyfodol, er mwyn sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael ar ôl.
Mae’n deimlad cyffredin, ar ôl gofalu am gyfnod estynedig, fod llawer o ofalwyr yn teimlo fel pe baent wedi colli eu hunaniaeth. Mae profiad un o fy etholwyr yn dangos hyn. Yn y digwyddiad gwybodaeth i bobl dros 50 oed yng Nghasnewydd y llynedd, cyfarfûm â menyw a oedd wedi bod yn ofalwr amser llawn. Rhoddodd ei bywyd ar ôl gadael yr ysgol i ofalu am ei mam, ac yna ar ôl hynny ei gŵr. Pan gyfarfûm â hi, yn anffodus, roedd y ddau aelod annwyl o’i theulu wedi marw. Teimlai fel pe na bai ganddi ddim. Fel gofalwr amser llawn roedd hi’n ei chael yn anodd cynnal bywyd cymdeithasol, ac nid oedd erioed wedi gallu dechrau ei gyrfa ei hun. Ar ôl treulio’r rhan fwyaf o’i hoes yn gofalu am anwyliaid a oedd yn dibynnu’n gyfan gwbl arni, roedd bod yn ofalwr yn ei diffinio. Pan fu farw’r rhai roedd hi’n gofalu amdanynt, teimlai nad oedd iddi unrhyw bwrpas. Yn 55 oed, roedd hi’n iach ac yn awyddus i fod yn weithgar yn y gymdeithas, ond heb unrhyw ffordd o ddefnyddio’r sgiliau roedd hi wedi’u meithrin. Dyma un enghraifft yn unig o filoedd lawer o bobl sydd, ar ôl gwneud rhywbeth y credaf y dylwn ei werthfawrogi’n helaeth fel cymdeithas, yn teimlo eu bod wedi’u gadael ar ôl heb fawr i edrych ymlaen ato yn y dyfodol.
Gall yr effaith y gall gofalu ei chael ar iechyd corfforol a meddyliol fod yn wanychol a hirsefydlog. Gall hyn fod yn arbennig o niweidiol i ofalwyr hŷn. Mae cyflyrau fel arthritis, pwysedd gwaed uchel a phroblemau cefn yn gyffredin ymysg gofalwyr hŷn, ac os cânt eu gadael heb gefnogaeth gywir, gall y broses gorfforol o ofalu waethygu hyn ymhellach. Gall gofalwyr deimlo’n flinedig yn feddyliol, sy’n cael ei waethygu’n aml drwy boeni, pryder, a diffyg cwsg a achosir gan heriau gofalu. Mewn arolwg o ofalwyr hŷn a gynhaliwyd gan Age UK, dywedodd 75 y cant o’r rhai rhwng 60 a 69 oed fod gofalu yn effeithio’n negyddol ar eu hiechyd meddwl. Nid ydym am weld unrhyw un mewn sefyllfa lle y maent yn aberthu eu hiechyd eu hunain, ac os yw iechyd y gofalwr yn methu yna mae’n aml yn rhoi’r sawl sy’n cael gofal mewn sefyllfa argyfyngus.
Mae modd dangos effaith gorfforol a meddyliol gofalu drwy hanes un arall fy etholwyr a oedd yn gweithio dramor fel athrawes ysgol uwchradd pan ddaeth adref i ofalu am ei mam 85 oed sydd â dementia. Roedd ei thad 86 oed wedi gofalu am ei wraig cyn hynny nes iddo gwympo a thorri ei asennau. Yn anffodus, bu ei thad farw. Rhoddodd fy etholwr y gorau i’w swydd, symud at ei mam a dod yn ofalwr amser llawn. Effeithiodd heriau corfforol gofalu arni, a dechreuodd golli ei hyder a mynd yn ynysig, ac roedd yn ei chael yn anodd cymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasol gan y byddai angen iddi dalu rhywun i edrych ar ôl ei mam. Er ei bod yn cael peth gwasanaeth gofalwyr ar rai dyddiau, ychydig iawn o seibiant a gâi. Nid oedd ei mam yn cysgu oherwydd y dementia, a oedd yn golygu bod y ddwy ohonynt yn effro drwy’r nos, gan ei gwneud yn hynod o anodd ymdopi. Bu farw mam fy etholwr yn union cyn ei phen-blwydd yn 90 oed, ar ôl bron i bum mlynedd o gael gofal amser llawn. Cynyddodd ei harwahanrwydd wrth i weithwyr gofal roi’r gorau i ymweld; roedd y tŷ yn wag. Bellach, nid oedd ganddi dasgau gofalu a daeth ei lwfans i ben. Roedd disgwyl iddi fynd ar lwfans ceisio gwaith. Newidiodd bod yn ofalwr amser llawn fywyd fy etholwr. Ar ôl gyrfa lwyddiannus fel athrawes, teimlai nad oedd unrhyw ffordd o fynd yn ôl ar lwybr gyrfa eto oherwydd ei hoedran. Roedd hi wedi ymgeisio am nifer o swyddi, ond yn aflwyddiannus, ac mae hyn yn dorcalonnus, gan iddi roi’r gorau i yrfa ddisglair i ofalu am ei mam pan oedd hi fwyaf o’i hangen. Unwaith eto, un enghraifft yn unig o blith nifer yw hon.
Mae gofalwyr yn gwybod pa mor bwysig yw gofal seibiant. Gall fod yn achubiaeth i roi gofod ac amser i ofalwyr allu parhau i ofalu amdanynt yn eu cartref eu hunain. Mae’n gam mawr i lawer o bobl i deimlo eu bod yn gallu gadael eu hanwyliaid gyda rhywun arall, ond ar ôl cymryd y cam cyntaf, mae’n ffordd hanfodol o gefnogi’r gofalwr. Ni all gofal seibiant fod yn ateb un model sy’n addas i bawb. Rhaid edrych ar ffurfiau hyblyg o seibiant i sicrhau ei fod yn gweithio ar gyfer pob gofalwr a sefyllfa unigol.
Rwyf hefyd yn credu ei bod yn bwysig i ni wneud popeth a allwn i gynorthwyo’r rhai sydd â chyfrifoldeb gofalu i aros yn eu swyddi cyhyd ag y bo modd. Rhaid edrych ar fentrau i wobrwyo cyflogwyr sy’n cefnogi gofalwyr ac yn cydnabod pwysigrwydd cadw aelodau staff profiadol.
Yn fy etholaeth i, mae bwrdd iechyd Aneurin Bevan wedi lansio menter newydd, Ffrind i Mi, sy’n chwilio am wirfoddolwyr i baru gydag unrhyw un sy’n teimlo’n unig ac yn ynysig. Y syniad yw dweud, ‘Gadewch i mi eich cyflwyno i ffrind i mi’. Gan weithio gyda chysylltwyr cymunedol Cyngor Dinas Casnewydd a gwasanaethau cyfeillio eraill, maent am gyrraedd cymaint o bobl ag y bo modd. Gall mentrau fel y rhain wneud gwahaniaeth enfawr i ofalwyr, a allai fod wedi’u hynysu.
Yn awr, yn fwy nag erioed, mae’n hanfodol ein bod yn harneisio arbenigedd y gofalwyr medrus hyn, gan ddarparu ar gyfer gofalwyr ar yr un pryd pan fydd y rhai y maent wedi bod yn gofalu amdanynt yn marw. Datblygodd y Brifysgol Agored yng Nghymru gwrs ar-lein rhad ac am ddim y llynedd a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer gofalwyr, cwrs o’r enw ‘What about me?’ Pwynt y cwrs oedd helpu gofalwyr i nodi’r sgiliau sydd ganddynt a’u helpu i ddychwelyd at addysg neu gyflogaeth. Unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth y teimlaf fod angen ei gefnogi a’i hyrwyddo. Yn wir, rwy’n teimlo bod angen i ni fynd ymhellach i archwilio cyfleoedd hyfforddi a chymwysterau posibl ar gyfer ein gofalwyr di-dâl. Ar ôl blynyddoedd o neilltuo eu bywydau i eraill, rwy’n credu’n bendant fod gofalwyr yn haeddu’r gydnabyddiaeth a’r rhagolygon ar gyfer y dyfodol y gall cymhwyster ei roi. Maent yn haeddu seibiant, maent yn haeddu cydnabyddiaeth, ond yn bennaf oll, maent yn haeddu ein cefnogaeth ddiwyro.