Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 7 Mawrth 2017.
Brif Weinidog, mae gan Gasnewydd botensial economaidd mawr, gyda'i chryfderau trafnidiaeth, daearyddol a diwydiannol. Ar yr M4, prif reilffyrdd a rhai’r arfordir, rhan o’r brifddinas-ranbarth, yn agos i Fryste, mae'n ganolbwynt i’w heconomi ranbarthol ehangach. Felly, Brif Weinidog, a wnewch chi gytuno â mi y bydd ysgogi datblygiad economaidd yng Nghasnewydd yn ffactor pwysig os yw Cymru am wireddu ei photensial economaidd mawr?