<p>Datblygu Economaidd yn Ne-ddwyrain Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 7 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 1:31, 7 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Nododd adroddiad gan y What Works Centre for Wellbeing a gyhoeddwyd yn ddiweddar bod pedwar awdurdod lleol yn y de-ddwyrain ymhlith yr uchaf o ran anghydraddoldeb llesiant. Roedd y rhain yn cynnwys Torfaen, Blaenau Gwent, Caerffili a Merthyr Tudful. Mae'r adroddiad yn ei gwneud yn eglur bod nifer o ffactorau cyfrannol, wrth gwrs, a nifer o atebion posibl, ond ni ddylem wrthod y dangosyddion a ddefnyddiwyd, a oedd yn cynnwys pa mor werth chweil y mae pobl yn teimlo am eu bywydau o ddydd i ddydd. Mae datblygu economaidd yn mynd i fod yn ganolog i roi sylw i’r teimladau dwfn iawn hynny yn y cymunedau hynny. A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i wrthod nawr dull datblygu economaidd diferu i lawr, ac yn hytrach roi ar goedd ei ymrwymiad i ddull seiliedig ar le fel bod unrhyw gynlluniau economaidd yn y dyfodol y mae'n eu datgelu ar gyfer y wlad hon yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n wirioneddol bwysig, sef pobl a'u cymunedau?