Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 7 Mawrth 2017.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Rwy'n credu bod pawb yn y Siambr yn croesawu'r gwelliant enfawr ym mherfformiad y maes awyr ers ymyrraeth y Llywodraeth. Ond onid yw'r Prif Weinidog yn cytuno y bydd cyswllt rheilffordd yn cynyddu ei apêl yn fawr i'r teithiwr rhyngwladol ac yn rhoi mantais gystadleuol iddo dros feysydd awyr lleol eraill? Felly, a all ef ddweud wrthym ni pam nad yw hyn wedi ei gynnwys yn y prosiect metro?