Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 7 Mawrth 2017.
Ar ôl i Action for ME gyflwyno rhaglen cymorth cyflogaeth i bobl ag ME gydag Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Bryste, cyrhaeddodd 72 y cant o gleientiaid eu nodau cyflogaeth. Sut y gwnewch chi sicrhau, felly, y bydd Llywodraeth Cymru, gan edrych ar yr arfer da cyfagos iawn ar draws y ffin, yn mynd i'r afael â'r rhwystrau a wynebir gan bobl sydd â chyflyrau hirdymor anwadal, fel enseffalomyelitis myalgig a sicrhau bod y rhain yn cael eu cynhyrchu yn gyd-gynhyrchiol yn unol â gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014?