Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 7 Mawrth 2017.
Mae bydwragedd yn chwarae rhan hanfodol i gynorthwyo menywod trwy eu profiad rhoi genedigaeth. Mae gan bob menyw fydwraig benodol i ddarparu gofal unigol yn ystod beichiogrwydd. Mae'r pecyn ariannu addysg iechyd £95 miliwn a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn cynnwys cynnydd o 40 y cant i leoedd hyfforddi mewn bydwreigiaeth, a dyna yw’r lefel uchaf o leoedd hyfforddi bydwreigiaeth a gomisiynwyd ers datganoli.