<p>Arferion Bydwreigiaeth</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 7 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:09, 7 Mawrth 2017

Mi wnaf innau dynnu sylw’r Prif Weinidog at lythyr yr ydw i wedi’i dderbyn gan gangen y WI yn Llangoed, yn fy etholaeth i, yn rhoi’r achos dros fuddsoddi mewn gwasanaethau bydwragedd. Yn benodol, maen nhw’n bryderus am gynaliadwyedd y gweithlu. Ydych, mi ydych chi’n dweud bod yna fuddsoddiad wedi cael ei wneud mewn rhagor o lefydd hyfforddi, ond a ydy’r Prif Weinidog yn cytuno â mi, oni bai ein bod ni’n gweld cynnydd sylweddol yn y llefydd hyfforddi sydd ar gael yng Nghymru, y bydd hi’n amhosib i ni ddarparu ar gyfer mamau a’u teuluoedd yn y dyfodol y math o wasanaeth y maen nhw ei angen ac yn ei haeddu?