Part of the debate – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 7 Mawrth 2017.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn, a dweud ein bod yn credu bod rhyw 450 o bobl sy’n byw yng Nghymru yn cael eu cyflogi yng ngwaith Vauxhall Ellesmere Port? Hefyd, mae tua dwsin o gwmnïau yng Nghymru yn y gadwyn gyflenwi. Nid oes amheuaeth bod angen dileu’r ansicrwydd yn sgil Brexit er mwyn helpu safle Vauxhall Ellesmere Port, ac yn wir y gwaith yn Luton, i wneud y mwyaf o botensial ei weithlu cynhyrchiol. Fy marn gadarn i yw y dylai’r hyn sy'n dda i Nissan hefyd fod yn dda i Ford, ac i Vauxhall, ac i’r sector modurol cyfan yn y DU.
Rwy’n credu bod yr Ysgrifennydd busnes, Greg Clark, yn awyddus i wneud ei orau glas dros y sector modurol, ond mae angen hefyd i'r Canghellor a'r Prif Weinidog, a Llywodraeth gyfan y Deyrnas Unedig, fod yr un mor ymrwymedig i weithgynhyrchu yn y DU ag y maen nhw i ddinas Llundain. Fel yr wyf wedi ei ddweud, rwyf i wedi siarad â Vauxhall, rwy’n ceisio trefnu cyfarfod brys â chadeirydd Groupe PSA i drafod y cyfleoedd a allai ddod pe byddai oes y Vauxhall Astra yn parhau i'r degawd nesaf, neu pe byddai cynhyrchion newydd yn cael eu datblygu, yn enwedig ar gyfer y gadwyn gyflenwi yng Nghymru lle y credwn fod potensial i dyfu'n sylweddol nifer y cyfleoedd i gyflenwi Ellesmere Port a Luton.