Part of the debate – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 7 Mawrth 2017.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Bydd yr Aelod yn ymwybodol bod penderfyniad ar y Vauxhall Astra wedi ei ohirio ar ôl Brexit yn sgil ansicrwydd, ac mae'n eithaf amlwg mai’r hyn sydd ei angen fwyaf ar Vauxhall, Ford, Nissan—ar y sector modurol cyfan—yw sicrwydd ynghylch y fargen y bydd y DU yn ei tharo â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Mae Ellesmere Port, mewn gwirionedd, yn un o'r cyfleusterau mwyaf cynhyrchiol yn y cwmni cyfunol newydd ar hyn o bryd, ond bydd 24 o ffatrïoedd ledled yr UE yn rhan o'r cwmni newydd. Hwn fydd yr ail weithgynhyrchydd mwyaf yn Ewrop y tu ôl i Volkswagen. Rydym ni’n dymuno gweld Ellesmere Port yn cael y buddsoddiad gan Lywodraeth y DU a fydd yn ei alluogi i dyfu a ffynnu.
O ran y cymorth y gallwn ei roi, wrth gwrs, gyda chynifer o bobl o Gymru yn cael eu cyflogi yng ngwaith Vauxhall Ellesmere Port, mae swyddogaeth hollbwysig gan ddarparwyr hyfforddiant sgiliau yn y gogledd, ac felly, ar gyfer y bartneriaeth sgiliau rhanbarthol, mae hwn yn waith hollbwysig. Gwn fod y colegau yn y gogledd wedi darparu gweithwyr eithriadol sydd â’r sgiliau angenrheidiol i sicrhau’r cynhyrchiant mwyaf posibl ar y safle, ac rwy’n gwybod hefyd bod y bartneriaeth sgiliau rhanbarthol yn ymwybodol iawn o'r heriau, ond hefyd y cyfleoedd, yn Ellesmere Port. Rwyf i wedi ceisio trefnu cyfarfod â Gweinidogion y DU i drafod y sector modurol. Hwn, wrth gwrs, yw'r diweddaraf mewn cyfres o gyhoeddiadau sy'n dangos yr angen mawr iawn i Lywodraeth y DU weithredu mewn modd mwy ymyrrol. Mae'r geiriau wedi’u rhoi ar bapur sy'n awgrymu bod y Llywodraeth yn fodlon gwneud hynny, ond yfory gall Llywodraeth y DU, mewn gwirionedd, neilltuo arian i gefnogi ei geiriau a buddsoddi yn y sector gweithgynhyrchu ledled y DU.