Part of the debate – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 7 Mawrth 2017.
A gaf i ddiolch i Michelle Brown am ei chwestiynau? Wrth gwrs, aros yn y farchnad sengl yn yr UE fyddai wedi bod y ffordd orau o sicrhau gweithgynhyrchu, nid dim ond yng Nghymru, ond ledled y DU, ond mae pobl Prydain wedi penderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd. Yn y cyd-destun hwn, yr hyn sy’n gwbl hanfodol yw ein bod yn buddsoddi yn nhechnoleg y dyfodol er mwyn diogelu’r sector modurol ar gyfer y dyfodol, yn enwedig wrth i ni ddechrau ar y pedwerydd chwyldro diwydiannol. Yn hyn o beth, dywedodd cadeirydd y grŵp y rhagwelir y bydd £1.47 biliwn o arbedion y flwyddyn yn cael eu cyflawni erbyn 2026 yn y grŵp Vauxhall-Opel. Mae hynny’n cyflwyno heriau, wrth gwrs, i Ellesmere Port, ond y neges y byddwn i’n ei rhoi yn glir iawn i gadeirydd y grŵp yw bod gan waith Ellesmere Port un o'r gweithluoedd mwyaf medrus a chynhyrchiol mewn unrhyw le yn y teulu Vauxhall-Opel, ac yn lle ystyried toriadau neu leihau’r gweithlu yng ngwaith Ellesmere Port yn y blynyddoedd i ddod, dylai, yn hytrach, ystyried cynyddu’r gweithgynhyrchu sy'n digwydd yno.
Rydym ni’n buddsoddi'n drwm iawn yn natblygiad y gweithlu modurol ac rydym hefyd yn gweithio gyda'r sector modurol i chwilio am gyfleoedd newydd, yn enwedig ym maes moduron trydan. Mae fforwm modurol Cymru eisoes wedi rhoi dadansoddiad i mi o effaith debygol penderfyniad PSA i gaffael Vauxhall-Opel, a chredir y gallai'r Astra ymestyn ei oes gweithgynhyrchu y tu hwnt i ddiwedd y degawd hwn. Byddai hynny'n rhoi digon o amser i nodi cynnyrch newydd a dod â hwnnw i waith Ellesmere Port, neu yn wir i’r cwmni cyfunol newydd gynhyrchu cynnyrch newydd ar y cyd a’i weithgynhyrchu yma yn y DU yn Ellesmere Port.