Part of the debate – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 7 Mawrth 2017.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar ddiffyg argaeledd adnoddau dysgu dwyieithog a’r effaith y mae hynny’n ei gael ar addysg Gymraeg? Mae’n rhywbeth sydd wedi codi ei ben o dro i dro dros y misoedd diwethaf, ond mi wnes i ddeall heddiw na fydd TGAU seicoleg yn cael ei dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn un lle y flwyddyn nesaf, a hynny oherwydd yr ansicrwydd ynglŷn ag argaeledd yr adnoddau angenrheidiol. Mae ysgolion Cymraeg Cymru wedi penderfynu peidio â darparu’r cwrs, ac mae ysgolion dwyieithog wedi dewis gwneud y cwrs Saesneg oherwydd eu bod nhw’n gwybod bod yr adnoddau ar gael. Nawr, y perygl yn hynny, wrth gwrs, yw yn y dyfodol bydd yr awdurdodau yn dweud nad oes galw am y fath adnoddau, ac felly rŷm ni’n gweld cylchdro dieflig gwbl annerbyniol yn datblygu, yn fy marn i, ac mae hynny filiwn o filltiroedd i ffwrdd, wrth gwrs, o ble dylem ni fod os ydym ni am weld miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050. Mae e yn gadael ysgolion Cymraeg i lawr. Mae’n gadael athrawon sydd am ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i lawr, ac mae’n gadael disgyblion sydd am gael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i lawr. Ac mae e’n tanseilio pob uchelgais sydd gan y Llywodraeth yma o safbwynt yr iaith Gymraeg. Felly, mi fyddwn i’n gofyn yn garedig i’r Gweinidog perthnasol ddod ger ein bron ni i esbonio’n union beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud, a sut maen nhw’n tybio bod hyn yn dderbyniol mewn unrhyw ffordd.