3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 7 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 2:38, 7 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Ddoe, cyhoeddodd Newsquest ei fod yn cau ei ganolfan yng Nghasnewydd, gan golli 14 o swyddi. Yn anffodus, wrth gwrs, mae hyn yn adlewyrchiad o'r duedd gyffredinol ymhlith y cyfryngau print, ac, yn amlwg, rydym agored iawn i hynny yma yng Nghymru. Sylwaf fod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn y Siambr. Tybed a allem gael datganiad ysgrifenedig o leiaf ganddo, a allai gynnwys gwybodaeth efallai am natur penderfyniad Newsquest i ddod â’i weithrediadau yng Nghasnewydd i ben ond eu cadw yn Weymouth, ac, yn benodol ac yn bwysig iawn, pa ymyriad y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i gefnogi aelodau’r staff yno, o ran eu gobeithion am yrfa yn y dyfodol. Hefyd, yn fy marn i, gallai hyn fod yn gatalydd eto i fwy o ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru yn gyffredinol yn sector y cyfryngau print, wrth inni symud ymlaen.