Part of the debate – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 7 Mawrth 2017.
Tybed a ydy’n fwriad gan y Llywodraeth i ddod â dadl cyn bo hir, yn amser y Llywodraeth, ar y mater o fand eang i gymunedau Cymru, yn benodol, cynllun Superfast Cymru? Roedd nifer o gwestiynau wedi cael eu gofyn i’r Prif Weinidog yn ystod ei gwestiynau fe, ac rwy’n credu, pe buasai’r Llywydd wedi bod yn amyneddgar, buasai pob un ohonom ni wedi gallu codi i ofyn cwestiwn ynglŷn â’r cymunedau sy’n cael trafferth ar hyn o bryd i gael mynediad at Superfast Cymru.
Yr enghraifft ddiweddaraf rydw i wedi’i gweld yn fy rhanbarth i yw tro pedol gan BT i ddarparu band eang i Lanymawddwy. Roedd yna gyfarfod fis Mehefin diwethaf, gyda’r Aelod Seneddol, Liz Saville-Roberts, yn bresennol, pan wnaed addewid y byddai Superfast Cymru yn dod i Lanymawddwy. Erbyn hyn, mae BT wedi gwneud tro pedol. Dyma’r tro cyntaf i fi weld tro pedol llwyr. Oedi, ie, ailraglennu, ie, ond nid tro pedol llwyr yn dweud na fydd band eang ar gael ar gyfer y pentref hwn, er gwaethaf addewid sydd wedi’i wneud yn y gorffennol.
I bobl sydd yn ystyried bod efallai llefydd pellennig yn rhy bell i gael technoleg fodern, digwydd bod, dyma’r ardal lle ffilmiwyd y ffilm gyntaf mewn lliw yng Nghymru erioed. Felly, dylem ni ailfeddwl, efallai, lle mae creadigrwydd a thechnoleg newydd yn dechrau yng Nghymru. Wrth gwrs, pwnc y ffilm yna oedd gwylliaid cochion Mawddwy. Felly, oni bai eich bod chi eisiau gwrthryfela ymysg bryniau Maldwyn a Meirionnydd, efallai ei bod hi’n amser ailedrych ar hyn mewn dadl yn amser y Llywodraeth er mwyn inni i gyd ddeall i le y mae Superfast Cymru yn mynd ac a yw’n cadw at yr addewidion sydd wedi cael eu gwneud i Aelodau’r Cynulliad.