3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 7 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:47, 7 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n codi dwy eitem o fusnes. Yn gyntaf, rwy’n galw am ddatganiad yn cydnabod bod ddoe yn dynodi cychwyn degfed Wythnos Prentisiaethau Cenedlaethol y DU, nid er mwyn ailgylchu’r dadleuon yr ydym eisoes wedi eu cael yma ynglŷn â’r ardoll, ond y materion ehangach sy'n cael eu dwyn i'r amlwg. Er enghraifft, mae llawer o elusennau, fel y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar, yn siomedig, i’w rhoi yn gwrtais, na fydd prentisiaethau yn cael eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth anghenion dysgu newydd arfaethedig fel y mae’n sefyll ar hyn o bryd. A dangosodd ymchwil newydd gan Centrica, perchennog Nwy Prydain, y byddai bron un o bob dau berson ifanc yn cael eu denu i weithio i gwmni gyda chyfleoedd ar draws y DU, o'u cymharu ag ychydig dros un o bob pedwar person ifanc o Gymru, nad oeddent yn credu bod hynny’n flaenoriaeth iddyn nhw. Er bod mynd i’r brifysgol yn cael ei ystyried o hyd yn ddechrau delfrydol, ac nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn yr arolwg yn credu mai prentisiaethau yw’r man cychwyn gorau i ymgyrraedd at swyddi uwch, mae 90 y cant o brentisiaid Centrica, er enghraifft—rwy'n siwr fod cyfatebiaeth i hynny mewn mannau eraill—yn teimlo eu bod yn fwy parod ar gyfer byd gwaith na ffrindiau a aeth i goleg neu brifysgol.

Yn ail, ac yn olaf, rwyf yn galw am ddatganiad llafar o leiaf, ac yn ddelfrydol drafodaeth gan y Llywodraeth, ar 'Symud Gogledd Cymru Ymlaen', gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer metro’r gogledd a’r gogledd-ddwyrain. Mae hwn yn fater hanfodol bwysig i’r gogledd. Rydym wedi bod yn disgwyl am fisoedd lawer iawn i Lywodraeth Cymru roi manylion ei hymateb i'r cynigion a wnaed. Yn lle hynny, datganiad ysgrifenedig yn unig a gawsom ni ddydd Iau diwethaf yn llawn ystrydebau, megis

Bydd moderneiddio trafnidiaeth yn y Gogledd ... yn cyfrannu at gyflawni ein hamcanion lles, ac

Mae cysylltiadau cryf rhwng economi’r gogledd-ddwyrain ac economi gogledd-orllewin Lloegr.

Nid oedd angen i ni gael datganiad i ddweud hynny wrthym. Ac rydym wedi derbyn cyhoeddiadau wedi eu hailgylchu, fel y rhai a gafwyd ar yr uwchgynhadledd bysiau. Er ei fod yn hanfodol bwysig, rydym wedi cael datganiad ar ôl datganiad ar ôl datganiad yn y Siambr, ac rydym wedi clywed y cynigion ar gyfer Glannau Dyfrdwy a Wrecsam sawl tro hefyd.

Yr unig gyfeiriad at weddill y gogledd oedd y drydedd bont dros y Fenai, sydd, mewn gwirionedd, yn ymgynghoriad wedi'i ailgylchu, gan fod argymhellion yr un olaf, naw mlynedd yn ôl, wedi eu hanwybyddu.

Yn olaf, ac yn bwysicaf oll, mae'n cyfeirio at ddadlau yr achos gyda Llywodraeth y DU dros gyfran decach o gyllid y rheilffyrdd, gan wybod yn iawn fod hynny wedi ei seilio ar y weledigaeth twf ar gyfer y gogledd a Growth Track 360, a gyflwynwyd i Lywodraeth y DU yn gynnar yr haf diwethaf. Maen nhw yn hanfodol i allu Llywodraeth y DU i fuddsoddi yn nhrydaneiddio’r gogledd a materion eraill, fel y gŵyr y Gweinidog yn dda. Nid yw dweud y byddwch yn edrych ar drefniadau rhanbarthol sy'n gysylltiedig â diwygio’r sector cyhoeddus a Thwf Cynigion wrth iddyn nhw ddatblygu yn ddigon da. Hyd nes y byddwn yn gwybod sut bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r cynigion hynny, nid ydym yn gwybod sut y gall hyn fynd yn ei flaen.