Part of the debate – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 7 Mawrth 2017.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae’r ail gyllideb atodol hon yn rhan safonol o’r broses reolaeth ariannol flynyddol. Mae’n rhoi cyfle olaf inni addasu’r cynlluniau cyllidebol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon a gafodd eu cymeradwyo gan y Cynulliad hwn yn y gyllideb atodol gyntaf fis Gorffennaf diwethaf. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’r Pwyllgor Cyllid am ei waith craffu ar yr ail gyllideb atodol hon. Byddaf yn ymateb i’r Cadeirydd maes o law ynglŷn â’r argymhellion penodol yn yr adroddiad.