Part of the debate – Senedd Cymru am 4:14 pm ar 7 Mawrth 2017.
Ar ôl gwneud y cyswllt hwn, rwyf yn credu y bydd hynny, wedyn, yn ei chwblhau, ond nid wyf wedi edrych ar y manylion yn ddiweddar. A dweud y gwir, os nad yw'n gwyro’r ffordd, bydd yn rhaid i ni gymryd camau eraill i sicrhau ei fod yn gwneud hynny. Roeddwn eisiau defnyddio'r cyfle hwn i siarad am y cynnig gofal plant yn 'Symud Cymru Ymlaen' ac edrych ar faint o arian sydd wedi ei ddyrannu hyd yma i gyflawni'r adduned honno. Mae £10 miliwn eleni yn y gyllideb cymunedau a phlant i dreialu'r adduned gofal plant am 30 awr yr wythnos am 48 wythnos y flwyddyn, sy’n adduned uchelgeisiol iawn, ac rwy’n ei chroesawu’n fawr. Mae £20 miliwn arall wedi ei ddyrannu yn y gyllideb addysg ar gyfer y flwyddyn ganlynol i fuddsoddi mewn lleoliadau gofal plant ochr yn ochr â rhaglen ysgolion yr 21ain ganrif. Nodaf fod Carl Sargeant wedi dweud wrth y pwyllgor plant a phobl ifanc, yn ôl ym mis Tachwedd, mai'r amcangyfrif gorau ar hyn o bryd o’r gost flynyddol o gyflawni'r adduned gofal plant yn gyffredinol yw £100 miliwn. Felly, 30 awr o addysg a gofal plant y blynyddoedd cynnar yn rhad ac am ddim i rieni sy'n gweithio, gyda phlant sy’n dair a phedair oed—yn amlwg, mae gan yr holl blant hynny hawl i 10 awr o addysg feithrin o'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed. Felly, yr her yw darparu'r 20 awr arall o ofal plant, ynghyd â 30 awr yn ystod gwyliau’r ysgol.
Mae darpariaeth y blynyddoedd cynnar yng Nghymru wedi canolbwyntio ar anghenion datblygiadol plant ifanc hyd yma. Mae'r cyfnod sylfaen a Dechrau'n Deg wedi eu seilio ar dystiolaeth o'r hyn sy'n cael yr effaith fwyaf ar gyfleoedd bywyd plant, ond maen nhw’n strategaethau costus. Mae lle gofal plant Dechrau'n Deg yng Nghymru yn costio £11.32 o'i gymharu â’r £5.62 yr awr y mae darparwr gofal plant yn Lloegr yn ei gael am le gofal plant difreintiedig. Yng Nghaerdydd, mae heriau penodol i ddiwallu’r adduned gyffrous iawn hon. Mae gennym 26 o ysgolion cynradd gyda darpariaeth feithrin ar hyn o bryd, ond nid yw dim ond ymestyn oriau plant o fod yn yr ysgol i 30 yn bosibl am fod 3,300 o leoedd yn cael eu darparu ar y cyfan mewn dwy garfan. Felly, mae gennych feithrinfa’r bore a meithrinfa’r prynhawn, i gyd yn yr un ystafell. Felly, bydd yn rhaid dod o hyd i atebion eraill a, beth bynnag, nid oes gan ysgolion canol dinas fawr o gapasiti sbâr i ehangu oherwydd eu bod wedi eu hamgáu gan adeiladau eraill.
Mae rhai enghreifftiau da o ofal cofleidiol yn fy etholaeth i yn Ysgol y Berllan Deg, sydd â meithrinfa ddwyieithog breifat yng ngwaelod yr ardd, ac yn Ysgol Gynradd Parc y Rhath, sydd â meithrinfa breifat rownd y gornel. Yn y ddau achos, maent yn ddigon agos at yr ysgol i blant tair oed i allu cerdded yno ar gyfer eu hawl meithrin. Mae'r rhain yn enghreifftiau da o gydweithio cyhoeddus-preifat, ond mae rhannau eraill o’m hetholaeth yn annhebygol o weld atebion marchnad i ddarparu’r adduned hon. Un ardal o'r fath yw ward Pentwyn, sef y stad dai fwyaf yng Nghymru. Yr unig gynnig gofal plant ar hyn o bryd yw gwarchodwyr plant. Yn ddiweddar, ymwelais â’r ganolfan wych i blant yn Nhrelái, yn etholaeth Ysgrifennydd y Cabinet, sy'n darparu addysg meithrin a gofal plant rhagorol yn ogystal ag arweinyddiaeth broffesiynol ar gyfer darparwyr blynyddoedd cynnar eraill. Ond dyma’r unig ganolfan i blant yng Nghaerdydd gyfan: y ddinas sy'n tyfu gyflymaf yn y DU a'r fwyaf yng Nghymru. Yn fy marn i bydd angen llawer mwy o ganolfannau plant fel Trelái os yw'r adduned 30 awr am gael ei darparu i bob rhiant sy'n gweithio, nid yn unig y rhai yn yr ardaloedd mwy cefnog lle bydd y farchnad yn darparu. Mae rhywfaint o dystiolaeth o hynny o'r profiad yn Lloegr. Felly, rwyf yn credu bod hwn yn fater y bydd angen i ni ei ystyried ymhellach pan fyddwn yn trafod y gyllideb yn y dyfodol.