Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 7 Mawrth 2017.
Diolch, Lywydd. Rwyf eisiau cynnig y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw Paul Davies yn ffurfiol. Rwy'n ddiolchgar iawn o gael y cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw, ac rwyf eisiau cofnodi fy niolch i Estyn, hefyd, am y gwaith y mae’n ei wneud ledled Cymru. Mae ei arolygiadau, wrth gwrs, yn rhoi cipolwg gwerthfawr iawn i ni ar yr hyn sy'n digwydd yn ein hysgolion ledled y wlad, ac, yn wir, mewn lleoliadau addysg bellach a’r blynyddoedd cynnar. Mae'r adroddiad hwnnw y mae’n ei gyhoeddi yn flynyddol yn rhoi cyfle i ni edrych—ar y darlun mawr, os mynnwch chi—ar y system addysg gyfan, mewn trosolwg.
Rwy'n falch iawn, mewn gwirionedd, bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cymryd safbwynt realistig o'r hyn a oedd gan yr adroddiad i'w ddweud. Nid oedd hi’n arbennig o hapus heddiw—mae hi'n aml felly y tu allan i'r Siambr hon—ond fe wnaeth hi dynnu sylw at ran o’r newyddion da a oedd yn yr adroddiad, ac mae yno newyddion da y gallwn ei ddathlu, yn enwedig o ran arweinyddiaeth yn y blynyddoedd cynnar, ac arweinyddiaeth, yn wir, yn y sector addysg bellach, hefyd.
Ond yr hyn a oedd yn achosi pryder i mi yn yr adroddiad hwn gan Estyn oedd bod adleisiau o broblemau a ddylai fod wedi eu datrys erbyn hyn—pethau sydd wedi cael eu hamlygu gan Estyn o'r blaen ac, yn wir, gan asiantaethau eraill cyn hynny, sy’n dal i godi, dro ar ôl tro yn yr adroddiadau hyn. Mae ein gwelliant ni yn ceisio tynnu rhywfaint o sylw at y rhain. Rydych chi wedi cyfeirio at rai o'r rhain eisoes, wrth gwrs, yn eich araith agoriadol. Mae ein gwelliant cyntaf yn canolbwyntio ar ansawdd ac amrywioldeb yr addysgu. Rydym ni’n gwybod bod Estyn wedi dod i'r casgliad mai dyna’r agwedd wannaf ar y ddarpariaeth ar draws sectorau yn y system addysg yng Nghymru, a dyna sy’n cael y dylanwad mwyaf ar ddeilliannau dysgwyr. Felly, mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â'r mater hwn, unwaith ac am byth, ac rwy’n gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, i fod yn deg i chi, eich bod wedi cymryd rhai camau cychwynnol i sicrhau rhywfaint o welliant. Rwy'n falch iawn bod gennym ni rai safonau proffesiynol newydd, sydd wedi'u datblygu, er nad wyf yn deall o hyd pam nad y Cyngor Gweithlu Addysg sy'n pennu’r safonau hynny, a pham yr ydych yn dal i deimlo ei bod yn angenrheidiol, fel Llywodraeth, i wneud hynny, er gwaethaf y ffaith nad dyna yw’r arfer yn y rhan fwyaf o awdurdodaethau eraill. Nodaf hefyd eich bod yn cymryd camau i wella hyfforddiant cychwynnol athrawon a byddaf yn edrych ymlaen at glywed mwy o fanylion am eich cynigion penodol ar hynny yn y dyfodol.
Wrth gwrs, roedd hi’n ddigalon—yn ddigalon iawn—gweld bod Cymru ar waelod tablau cynghrair PISA y DU ac, yn wir, yn hanner isaf y tablau cynghrair byd-eang, ac mewn sefyllfa a oedd yn waeth y tro hwn na’r sefyllfa yr oeddem ni ynddi 10 mlynedd yn ôl. Mae'n rhaid i ni gyflymu’r newid er mwyn dringo i fyny’r tabl cynghrair a dysgu oddi wrth y gorau. Felly, rwy'n falch o’ch clywed chi’n cyfeirio hefyd at ddysgu oddi wrth ganolfannau rhagoriaeth rhyngwladol mewn gwledydd eraill er mwyn cael ein sefyllfa ni yn iawn.
Mae yna bethau y gall ysgolion, wrth gwrs, eu gwneud i wella'r cyfleoedd i athrawon ddatblygu eu sgiliau a chymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol parhaus. Byddant yn gallu gwneud llawer o hynny os cânt eu rhyddhau o rywfaint o'r fiwrocratiaeth y mae’n rhaid iddyn nhw ei hwynebu ar hyn o bryd a dyna pam yr ydym ni’n rhoi cryn groeso i'r argymhelliad yn adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd bod angen i ni wneud defnydd o fwy o reolwyr busnes yn ein hysgolion. Gwn fod honno'n farn yr ydych chithau’n ei rhannu hefyd.
Ond, wrth gwrs, dywedodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd hefyd bod angen arweiniad llawer cryfach gan y Llywodraeth o ran yr eglurder ynghylch y weledigaeth ar gyfer y dyfodol a sut yn union yr ydych chi’n mynd i gyrraedd yno. Gwn eich bod yn ceisio mynd i'r afael â'r argymhelliad penodol hwnnw ac fe wnaethoch gynnal cynhadledd yr wythnos ddiwethaf yn edrych ar rai o'r pethau penodol hyn a cheisio tynnu sylw at y swyddogaeth sydd gan ysgolion, penaethiaid, y consortia rhanbarthol ac eraill i’w cyflawni mewn gwirionedd.
Soniasoch am geisio cael athrawon i mewn i'r proffesiwn hefyd, a tybed pa ystyriaeth yr ydych chi wedi ei rhoi i’w gwneud yn haws i bobl drosglwyddo o yrfaoedd eraill i'r sector dysgu, os oes ganddynt y tueddfryd i fod yn athrawon da, a’r potensial i fod yn athrawon da. Byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed gennych ynghylch hynny.
O ran arweinyddiaeth, cefais fy nharo yn benodol gan y rhagoriaeth yr ydym wedi’i weld mewn arweinyddiaeth, yn enwedig yn y sector addysg bellach, yn yr adroddiad. Ac, wrth gwrs, rhoddwyd gwobr i David Jones o Goleg Cambria yr wythnos diwethaf, a oedd hefyd yn cydnabod ei sgiliau arweinyddiaeth. Tybed a oes cyfle, mewn gwirionedd, i’r gwahanol rannau o'r sector addysg gydweithio i wella sgiliau ein harweinyddion a manteisio ar ran o'r arbenigedd hwnnw, yn enwedig yn y sefydliadau mwy hynny, yr ysgolion mwy lle y gellir gwneud rhywbeth efallai i ymestyn pobl ychydig bach yn fwy a datblygu'r sgiliau hynny.
Rwy’n credu hefyd, o ran galluoedd y disgyblion mwy abl a thalentog, ein bod ni’n gwybod bod hyn hefyd yn rhywbeth y mae angen i ni ganolbwyntio arno. Dyna un o'r rhesymau pam nad oedd ein sgoriau PISA cystal ag y dylent fod ac mae hyn, unwaith eto, yn rhywbeth sydd wedi ei ailadrodd yn adroddiad Estyn. Rwy’n gwerthfawrogi hefyd bod Llyr yn mynd i fod yn siarad am ddisgyblion eraill ac unedau cyfeirio disgyblion, er enghraifft, ond mae’n amlwg bod angen i ni wneud yn siŵr bod pob un o'n disgyblion yn cyrraedd ei botensial llawn. Tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym am eich cynlluniau ar gyfer disgyblion mwy abl a thalentog, nid dim ond y rhaglen Seren, ond beth arall y gellir ei wneud er mwyn cael y bobl hynny, y bobl iau hynny yn benodol, i fyny yna, yn cyrraedd eu llawn botensial, a gwneud yn siŵr ein bod yn dringo i fyny’r tablau cynghrair hynny yn y dyfodol. Diolch.